The Dell

Datblygiad newydd ym Mhrestatyn yw The Dell, sy’n agos at siopau a gwasanaethau. Bydd saith fflat un ystafell wely ac wyth fflat dwy ystafell wely yn y bloc.

Ynglŷn â’r Dell

Mae The Dell wedi ei ddylunio’n benodol ar gyfer pobl sydd ag anawsterau symudedd.

Mae yno:

  • Llawr Gwaelod – pump fflat un neu ddwy ystafell wely wedi eu cynllunio yn benodol ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.
  • Llawr Cyntaf / Ail Lawr – deg fflat un neu ddwy ystafell wely. Bydd yn bosib cyrraedd rhain mewn lifft ac mae modd eu haddasu i denantiaid sydd ag anawsterau symudedd.

Bydd lle parcio ar gyfer pob fflat ar y safle a thri lle i ymwelwyr hefyd.

Bydd y fflatiau yn garbon isel ac yn defnyddio technolegau gwres ac ynni adnewyddadwy a byddant o gymorth i gyflawni Strategaeth Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol y Cyngor. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy osgoi’r defnydd o hydrocarbonau ar gyfer gwresogi gofod a dŵr yn y datblygiad.

Mathau o Dai a Chynlluniau

Bydd y datblygiad newydd cyffrous hwn yn gartref i ddau fath gwahanol o fflatiau.

Llawr Gwaelod

Llawr cyntaf

Ail Lawr

Cynllun safle

Site plan Welsh

Oriel

Byddwn yn ychwanegu at yr adran hon wrth symud ymlaen, ond wnewch chi ei gynnwys yma am y tro.

Rhagor o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth am unrhyw un o’n cartrefi newydd, cysylltwch â ni .

Y newyddion diweddaraf

Diweddariad cymunedol

Ymwadiad

PNodwch os gwelwch yn dda fod y lluniau a ddangosir at ddibenion enghreifftiol yn unig, ac ni fydd unrhyw wybodaeth a gaiff ei chynnwys ar y dudalen hon yn ffurfio unrhyw ran o denantiaeth. Mae’r holl fesuriadau a roir yn rhai bras.

 

Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.