At Sylw holl Tenantiaid Tai Sir Ddinbych! Mae ein Arolwg Tenantiaid a Preswylwyr (STAR) bellach ar gael!

Byddwn yn anfon testun a chyfathrebu e-bost i'n tenantiaid rhwng 20 Hydref -2 Rhagfyr gyda dolen i gwblhau STAR ar-lein. Os hoffech gael copi papur, cysylltwch â ni heddiw fel y gallwn eu postio atoch. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth cywir i chi ac yn rhoi gwybod i ni am eich blaenoriaethau. Drwy gwblhau'r arolwg, efallai y gallwch ennill cerdyn rhodd £250 neu £100 (Telerau ac amodau yn berthnasol).

STAR

Eich Amgylchedd

Rydyn ni am sicrhau’ch bod yn byw mewn lle glân, diogel a deniadol y gallwch fod yn falch ohono a’i fwynhau.

Mae Tîm Mannau Gwyrdd Tai Sir Ddinbych:

  • Yn gofalu am y mannau awyr agored ar eich ystadau
  • Yn monitro’r contract Cynnal Tiroedd
  • Yn gweithio ar brosiectau amgylcheddol sy’n gwella bioamrywiaeth, bywyd gwyllt a’ch ardal leol.

Bioamrywiaeth

Beth yw Bioamrywiaeth? Mae bioamrywiaeth yn fyr am Amrywiaeth Fiolegol, gair sy’n disgrifio amrywiaeth yr holl fywyd ar y ddaear. Mae’n bwysig i ni ddarparu a gwella cynefinoedd ledled y sir er mwyn cenedlaethau’r dyfodol. Ewch i wefan Bioamrywiaeth Sir Ddinbych am ragor o wybodaeth:

Gwefan Bioamrywiaeth Sir Ddinbych