
Prosiect Actif Sir Ddinbych ar y Rhestr Fer am Wobr Fawreddog Arfer Da TPAS Cymru 2025
Mae menter lles cymunedol arloesol dan arweiniad Actif Gogledd Cymru Sir Ddinbych wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori ‘Cynnwys Tenantiaid mewn Mentrau/Prosiectau Amgylcheddol’ yng Ngwobrau Arfer Da TPAS Cymru 2025.
Mae’r prosiect, Partneriaethau Ffyniannus, Trawsnewid Cymunedau, yn enghraifft wych o sut y gall cydweithio ar synnwyr o le wedi’i arwain gan y gymuned lywio newid ystyrlon. Drwy bartneriaethau ac ymgysylltu cryf â thenantiaid a’r gymuned yng Nghlawdd Poncen a Dinbych Uchaf, mae’r fenter wedi llwyddo i fynd i’r afael ag anweithgarwch corfforol, arwahanrwydd cymdeithasol ac anghydraddoldebau iechyd.
Bu Actif Gogledd Cymru a Thîm Cadernid Cymunedol Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda’i gilydd i benodi’r ddau gydlynydd prosiect – un mewn partneriaeth ag HWB Dinbych Grŵp Cynefin a’r llall gyda Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor a Thîm Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Roedd hyn yn galluogi’r prosiect i weithio ar y cyd gyda phartneriaid presennol a rhai newydd o’r dechrau, wrth ychwanegu gwerth at weithdrefnau gwaith presennol yn y meysydd hyn.
Cafodd tîm Rhaglen Natur er Budd Iechyd a HWB Dinbych gyflenwi gwelliannau ar y tir sydd wedi cefnogi gwaith Actif yn y rhaglen hon o weithgareddau. Gan weithio'n agos gyda phobl leol a phartneriaid, adeiladwyd darlun clir o ba mor gryf oedd cryfderau'r gymuned ond hefyd y rhwystrau i les, gan arwain at weithredoedd cydweithredol.
Mae’r cyflawniadau allweddol yn cynnwys:
Yng Nghorwen:
- Trawsnewidiodd y tîm Natur er Budd Iechyd fannau gwyrdd nad oedd yn cael eu defnyddio yn ganolbwynt cymunedol, yn cynnwys trac pwmpio, gerddi cymunedol a chyfleusterau ymarfer.
- Gwella llwybrau teithio llesol a chynnal gwasanaethau allgymorth iechyd.
- Gweithio mewn partneriaeth gyda grwpiau lleol fel Mudiad Meithrin a chlybiau chwaraeon lleol i ddarparu gweithgareddau cynhwysol.
Yn Ninbych Uchaf:
- Darparu rhaglenni gwyliau o gwmpas Cae Hywel oedd yn cynnig bwyd a diod a chwarae egnïol i blant.
- Gweithio mewn partneriaeth gyda Denbigh Harriers i gynnal mentrau ffitrwydd hygyrch yn cynnwys ffeirio esgidiau a Soffa i 5k.
- Grymuso pobl ifanc lleol i arwain y prosiect beicio ‘Twmpathau a Neidiau’, ymgyrch llawr gwlad ar gyfer mannau beicio diogel.
Roedd y dull hwn yn seiliedig ar gryfderau - “dechrau gyda’r hyn sy’n gryf, nid yr hyn sy’n anghywir’ - yn ein galluogi i symud ymlaen heb lawer iawn o gyllid, ond yn hytrach defnyddio adnoddau ar y cyd a pherthnasoedd lleol cryfion.
Meddai’r Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Rhys Thomas:
“Mae llwyddiant prosiect Actif Sir Ddinbych yn seiliedig ar bartneriaeth, amlygir hyn gan y ffaith bod y ddau Gydlynydd Actif ym mhob ardal yn cael eu cyflogi gan sefydliadau gwahanol, sy’n adlewyrchu ymddiriedaeth a dealltwriaeth o gryfderau unigryw bob cymuned.
“Rydym wedi gwirioni ein bod ar y rhestr fer ac yn falch o ddangos grym trawsnewid dan arweiniad y gymuned.
“Mae’r enwebiad yn dathlu model arloesol y prosiect fel un y gellid ei ddyblygu mewn cymunedau eraill ar hyd a lled Cymru.”
Partneriaid y Prosiect:
- Cyngor Sir Ddinbych - Tai, Gwasanaethau Ieuenctid, Cadernid Cymunedol, Gwasanaethau Cefn Gwlad
- Actif Gogledd Cymru
- Hwb Dinbych Grŵp Cynefin
- Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy - Rhaglen Natur er Budd Iechyd
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) - Tîm Iechyd Cyhoeddus
- Hamdden Sir Ddinbych Cyf - Tîm Chwaraeon Cymunedol
Mae’r enwebiad yn dathlu model arloesol y prosiect fel un y gellid ei ddyblygu mewn cymunedau eraill ar hyd a lled Cymru.
Ariannwyd y prosiectau hyn gan Gronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y DU drwy Actif Gogledd Cymru a’r rhaglen Natur er Budd Iechyd.
Pigion y Fideos: