Cymeradwyo datblygiad cartrefi cymdeithasol ym Mhrestatyn

Mae gwaith ar fin cychwyn ar adeiladu rhandai newydd ym Mhrestatyn ar gyfer tenantiaid ag anawsterau symud o gwmpas.

Mae aelodau Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno ar benodi contractwr i ddechrau  gwaith adeiladu ar 15 o randai'r Cyngor ar gyfer rhent cymdeithasol yn The Dell ym Mhrestatyn.

Cafodd caniatâd cynllunio ar gyfer dyluniad manwl y datblygiad ar dir sy’n perthyn i’r Cyngor ei gymeradwyo ym Mhwyllgor Cynllunio fis Medi.

Bydd adeiladwyr lleol i Ogledd Cymru, RL Davies & Sons Cyf yn gyfrifol am adeiladu’r datblygiad ar ran y Cyngor.

Bydd pum rhandy sydd wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn yn cael eu hadeiladu ar y llawr gwaelod, ac ar y lloriau uwch bydd cyfanswm o ddeg rhandy, a fydd yn hygyrch gan lifft, ac wedi’u haddasu ar gyfer tenantiaid ag anawsterau symud. Bydd saith rhandy un ystafell wely ac wyth rhandy dwy ystafell wely yn y bloc.

Bydd lle parcio ar gyfer pob fflat, a thri lle i ymwelwyr hefyd.

Bydd y fflatiau’n gweithredu'n garbon isel, trwy gynnwys ynni adnewyddadwy a thechnolegau gwresogi, a byddant yn helpu i gyflawni Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecoleg Sir Ddinbych. Caiff hyn ei gyflawni drwy osgoi defnyddio hydrocarbon ar gyfer gwresogi’r gofod a'r dŵr o fewn y datblygiad.

Mae’r penderfyniad yn cefnogi blaenoriaeth Cynllun Corfforaethol y Cyngor i sicrhau y cefnogir pawb i fyw mewn cartrefi sy’n diwallu eu hanghenion.

Bydd yn cyfrannu at gyflawni'r Strategaeth Tai a Digartrefedd hefyd gan alluogi gwaith adeiladu cartrefi hygyrch ar gyfer rhent cymdeithasol.

Dywedodd y Cyng Tony Thomas, aelod arweiniol Tai a Chymunedau: “Mae’r Cyngor yn falch o allu symud y datblygiad hwn ymlaen, gan ein bod yn llwyr ymwybodol o’r rhestr aros am dai yn Sir Ddinbych bod angen o ran rhandai ym Mhrestatyn sy'n addas ar gyfer pobl hŷn.

”Mae darn o dir sy’n eiddo i’r Cyngor yn lleoliad addas i ddatblygiad o’r fath gan fod tir gwastad o’r safle at y siopau a’r gwasanaethau ger llaw yng nghanol y dref.

“Drwy greu llety fel hyn, gallwch gefnogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain yn hirach. Mae hyn yn rhan o’r ymrwymiad yn ein Cynllun Corfforaethol i weithio gyda phobl a chymunedau i ddarparu rhagor o dai a magu annibyniaeth a gwydnwch.”

Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau ar y safle yn fuan gyda’r gwaith yn cael ei gwblhau yn hydref 2022.