
Tenantiaid Tai i gael eu hanrhydeddu am eu cyflawniadau
Mae seremoni wobrwyo fawreddog i ddathlu cyflawniad a chyfranogiad tenantiaid am y gwaith gwych y maent yn ei wneud o fewn eu cymunedau a’u prosiectau wedi cael ei gynnal yn Sir Ddinbych.
Roedd Gwobrau Tai Sir Ddinbych, a gynhaliwyd ym Mwyty 1891 yn y Rhyl ddydd Iau (29 Medi) yn ddathliad o bopeth y mae tenantiaid a chymunedau yn ei gyflawni yn ogystal ag arddangos prosiectau y maent yn ymwneud â nhw ar draws y sir.
Noddwyr y gwobrau eleni oedd Brenig Construction, sef y prif gontractwr ar brosiect Llwyn Eirin yn Ninbych sy’n cynnwys y tai cyngor newydd cyntaf i gael eu dylunio a’u hadeiladu ar gyfer ardal Sir Ddinbych ers 30 mlynedd.
Yr enillwyr a gyhoeddwyd yn y digwyddiad oedd:
- Tenant y Flwyddyn - Gwenda Williams
- Tenant Ifanc y Flwyddyn (dan 25) - Makayla Flynn
- Cymydog Da'r Flwyddyn - Gwyndaf ‘Jock’ Davies
- Preswylydd Tai / Grŵp Cymunedol y Flwyddyn - Canolfan Gymunedol Trem y Foel, Rhuthun
- Gwobr Gwasanaethau Cwsmer ar gyfer Tai Sir Ddinbych - Owen Evans
- Prosiect Cymunedol y Flwyddyn - Hwb Cymunedol Pengwern, Llangollen
- Arwr Cymunedol - Jonathan Lawton
- Gardd y Flwyddyn - ardal gymunedol - Gellifor a Llangynhafal
- Gardd y Flwyddyn - Tenant/unigolyn - Carolyn Philips ac Alun Scourfield
- Gardd y Flwyddyn - Ardal gymunedol - Llys Offa
- Arwr y Cloi - Debbie Holmes
- Gwobr Tai Sir Ddinbych - Adam Garvey a Richard Jones o GCS Heating Services
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Dai a Chymunedau: “Mae Gwobrau Tai Sir Ddinbych yn parhau i fynd o nerth i nerth. Mae’n wych dod â chymunedau ac unigolion ynghyd i ddathlu’r hyn y maent i gyd wedi’i gyflawni trwy waith caled a bod yn denantiaid gwych.
“O ddydd i ddydd rydym yn gweld llawer iawn o waith cadarnhaol yn digwydd ar draws ein cymunedau dan arweiniad ein tenantiaid i helpu i gefnogi a gwella ansawdd bywyd i bawb.
“Mae cyrraedd y rhestr fer am wobr yn anrhydedd i’r grwpiau a’r unigolion hynny ac mae ein diolch yn fawr iddynt am eu hymdrechion yn eu cymunedau lleol”.