Cannoedd o denantiaid wedi cymryd rhan mewn cyfres o sioeau teithiol ledled y Sir

Cynhaliodd Tai Sir Ddinbych saith digwyddiad dros yr haf i ymgysylltu â thenantiaid, darparu gweithgareddau am ddim i blant a chodi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau sydd ar gael.

Roedd mwy na 500 o denantiaid wedi cymryd rhan yn sioeau teithiol Tai Sir Ddinbych yn Ninbych, y Rhyl, Prestatyn, Galltmelyd, Dyserth, Rhuallt a Llangollen.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd: “Roedd y sioeau teithiol tai dros yr haf yn gyfle gwych i ni ymgysylltu â thenantiaid a darparu gweithgareddau llawn hwyl i blant. Daeth nifer da i’r sioeau teithiol a chafwyd adborth gwych a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran.

“Roedd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i ni siarad â phreswylwyr i gael dealltwriaeth o’r gymuned a rhannu gwybodaeth am wasanaethau sydd ar gael iddyn nhw.

“Mae darparu tai sy'n diwallu anghenion trigolion Sir Ddinbych yn flaenoriaeth i’r Cyngor.

“Bydd Tai Sir Ddinbych yn darparu 170 o dai Cyngor ychwanegol ledled y sir dros y pedair blynedd nesaf.”

Rhai o’r gweithgareddau i blant oedd paentio wynebau, celf a chrefft, creu pontydd, chwaraeon, rhaglennu robotiaid, penwisgoedd rhith-wirionedd a diogelwch ar-lein a rhai o'r sefydliadau a gymerodd ran oedd Heddlu Gogledd Cymru, Age Connect, y Fenter Iaith a nifer o wasanaethau’r Cyngor.