Gwirfoddolwyr Natur er Budd Iechyd yn helpu pathewod

Mae gwirfoddolwyr wedi helpu i adeiladu 20 o flychau nythu ar gyfer pathewod ym Mhrestatyn.

Bu oddeutu 15 o wirfoddolwyr Natur er Budd Iechyd yn helpu Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych i greu’r blychau.

Mae’r pathew yn rhywogaeth sydd mewn perygl ac mae colli gwrychoedd a newid mewn dulliau o reoli coetiroedd wedi arwain at ostyngiad mawr yn eu niferoedd o 72 y cant rhwng 1993 a 2014.

Dywedodd Liam Winning, Ceidwad Cefn Gwlad Cynorthwyol: “Drwy greu’r blychau nythu hyn, rydyn ni’n gobeithio helpu i godi’r niferoedd dros y blynyddoedd nesaf. Mae’r blychau wedi cael eu gwneud o bren lleol sydd heb ei drin â chemegion cadwrol, a byddant yn cael eu gosod a’u monitro ar safle sy’n bwysig i bathewod yn Sir Ddinbych.”

Mae Natur er Budd Iechyd yn rhan o waith y Cyngor i ddiogelu a gwella’r amgylchedd o dan ei Gynllun Corfforaethol a’r nod yw gwella bywydau pobl drwy weithgareddau iechyd a llesiant, gan helpu unigolion a chymunedau yn Sir Ddinbych i gysylltu â chefn gwlad a mabwysiadu arferion iach.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn gweithio mewn partneriaeth â Tai Sir Ddinbych i ddarparu'r prosiect, gyda chymorth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor.

Os hoffech gymryd rhan yng ngwaith Natur er Budd Iechyd yn y Rhyl neu ym Mhrestatyn, cysylltwch â Claudia Smith ar 01824 708313 neu e-bostiwch claudia.smith@denbighshire.gov.uk.