Prosiect newydd sy’n pontio'r cenedlaethau yn Ninbych
Ers mis Ionawr, mae Ysgol y Parc wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Celfyddydau Sir Ddinbych, Grŵp Cynefin a Tai Sir Ddinbych i redeg rhaglen o sesiynau celf creadigol wythnosol dwyieithog sy’n pontio’r cenedlaethau yn Ystafell Gymunedol Cysgodfa.
Dros y misoedd diwethaf mae’r trigolion a disgyblion Blwyddyn 2 wedi gweithio gyda’r artist Donna Jones a’r tiwtor drama Lowri Owen i greu ac i wneud ffrindiau wrth gael hwyl.
Y tymor hwn, bydd y grŵp, sy’n ei alw ei hun yn Glwb Creu, yn cwrdd bob dydd Iau rhwng 1-3pm yn Ystafell Gymunedol Cysgodfa, Ffordd Rhuthun, Dinbych (y tu ôl i Dolwen). Bydd yn gweithio gyda’r actores ac awdur adnabyddus Rhian Cadwaladr a’r darlunydd Abbie Parry i greu llyfr stori.
Os ydych chi dros 50 oed ac yn meddwl am fynychu’r sesiynau, cysylltwch ag Emily Reddy yn Tai Sir Ddinbych ar 07748166360 i gael rhagor o fanylion neu Dîm Mentrau Cymunedol Grŵp Cynefin ar 0300 111 2122.
Mae’r prosiect yn rhad ac am ddim ac yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych, Grŵp Cynefin, Ysgol y Parc, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llenyddiaeth Cymru.