Clod mawr i Gina o’r Rhyl mewn seremoni gwobrau tai

Mae un o drigolion y Rhyl wedi cael ei hanrhydeddu yn seremoni wobrwyo bwysig Tai Cymru am ei gwasanaeth i'w chymuned.

Gina Jones yw Cadeirydd Cymdeithas Gymunedol y Marsh a Chydlynydd Canolfan Phoenix yn y Rhyl. Mae'r enwebiad, a gyflwynwyd gan Tai Sir Ddinbych, yn cydnabod ymrwymiad, ymroddiad a gwaith caled Gina wrth droi dalen newydd yn hanes y ganolfan gymdogaeth leol, a oedd wedi dirywio dros nifer o flynyddoedd.

Daeth tro ar fyd yn hanes y Ganolfan pan ddaeth grŵp bach o wirfoddolwyr at ei gilydd, dan arweiniad Gina Jones, i ddechrau gweithio gyda Tai Sir Ddinbych ac amlinellu eu cynlluniau i drawsnewid y ganolfan. Ailagorwyd Canolfan Phoenix yng ngwanwyn 2017 gan gynnig dechrau newydd i bawb. Ers yr hailagor, mae Gina a gwirfoddolwyr eraill wedi ymdrechu i ddarparu Canolfan sy’n bodloni dymuniadau’r preswylwyr ac amgylchedd hamddenol cyfeillgar sy'n cynnig amrywiaeth fawr o weithgareddau a chlybiau. Dywed preswylwyr fod y ganolfan bob amser yn groesawgar: "Mae'r Ganolfan yn llawer mwy cyfeillgar nag yr arferai fod, felly mae mwy o bobl yn ei defnyddio nawr”.

Gyda chymorth Nikki Jones, un o swyddogion Datblygu Cymunedol Tai Sir Ddinbych, a sefydliadau allanol eraill, mae Gina bellach wedi ehangu rhaglen y Ganolfan i gynnig sesiynau cynghori a datblygu sgiliau. Bellach gall preswylwyr sy'n mynychu'r Ganolfan elwa o gyrsiau Homestart, cyrsiau Coleg Llandrillo, Clwb Swyddi, cymorthfeydd tai a sesiynau coginio. Erbyn hyn, mae Canolfan Phoenix yn ganolfan lle gall preswylwyr wella eu hiechyd, eu llesiant a'u rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Dywedodd un preswylydd: "Mae'n gymorth mawr cael defnyddio cyfrifiaduron a'r rhyngrwyd am ddim i chwilio am swyddi, a delio â Chredyd Cynhwysol. Does gen i ddim cyfrifiadur na chysylltiad â’r rhyngrwyd gartref, felly mae cael hyn mor agos at gartref yn wych.”

Er bod y lle a oedd ar gael yn gyfyngedig, roedd Gina am weld y ganolfan yn cynnig rhywbeth i bawb, nid cyrsiau a gwybodaeth yn unig. Roedd hi am greu canolfan lle byddai pobl yn dewis dod i mewn a chymdeithasu neu wneud ffrindiau newydd. Erbyn hyn, mae Gina a'r gwirfoddolwyr yn rhedeg nifer o glybiau ac yn trefnu tripiau a nosweithiau cymdeithasol, yn cynnwys nosweithiau ffilm, clwb gwau / gwnïo, ysgrifennu CV, boreau coffi, celf a chrefft i blant, peintio cerrig, clwb garddio, diwrnodau hwyl i’r gymuned, diwrnodau allan, partïon plant a chlwb gwaith cartref.

Un diwrnod yn ddiweddar, roedd rhai plant lleol wedi mwynhau eu hymweliad cyntaf erioed â Sw Caer, ond y Clwb Gwaith Cartref sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar y plant yn y gymuned. Meddai un plentyn: "Does gen i neb gartref sy’n gallu fy helpu gyda fy ngwaith cartref, felly dwi'n dod yma i wneud hynny a dydw i ddim yn mynd i drafferth yn yr ysgol." Dywedodd plentyn arall: "Does gen i ddim i'w wneud ar ôl ysgol felly dwi'n dod yma yn lle cerdded y strydoedd." Mae annog plant i gymryd rhan yn y clwb gwaith cartref yn amhrisiadwy i'w haddysg ac mae hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymuned.

Meddai un o’r preswylwyr: "Mae Gina a'r gwirfoddolwyr yn agos-atoch ac mae’n hawdd siarad â nhw am unrhyw broblemau sydd gennyn ni ac maen nhw'n gallu rhoi cyngor i ni a'n rhoi ar ben ffordd i gael cymorth. Mae gwên ar eu hwyneb bob amser ac maen nhw’n creu amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar.”

Meddai'r Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Dai: "Mae ennill gwobr yr Hyrwyddwr Tai mewn seremoni wobrwyo genedlaethol bwysig yn gydnabyddiaeth i ymroddiad ac ymrwymiad Gina a’r gwaith caled ganddi hi a’i gwirfoddolwyr i wneud gwahaniaeth go iawn yn ansawdd bywyd yr ardal.

“Mae’r trobwynt yn hanes y ganolfan gymunedol yn ganlyniad i weledigaeth, gwaith caled, angerdd, ymrwymiad ac ymdrech Gina i wella bywydau'r bobl yn ei chymuned. Gyda chymorth gan Nikki a phartneriaid allanol, mae Gina wedi gwireddu ei gweledigaeth a rhoi’r Ganolfan yn ôl i’w chymuned.

“Dros y 18 mis diwethaf, mae Gina a'i gwirfoddolwyr wedi gweithio'n ddiflino i droi canolfan gymunedol segur ac anghefnogol yn amgylchedd prysur a chroesawgar sy'n diwallu anghenion ei chymuned. Oherwydd y gwahaniaeth gwirioneddol y mae Gina wedi'i wneud i fywydau pobl yn ei chymuned, ni all Tai Sir Ddinbych feddwl am neb sy'n haeddu'r wobr hon yn fwy na hi. Rydyn ni’n falch dros ben o’i llwyddiant”.