Telerau ac amodau


Mae'r dudalen hon ac unrhyw dudalennau y mae'n cysylltu â nhw, yn egluro telerau defnyddio taisirddinbych.co.uk . Rhaid i chi gytuno â'r rhain i ddefnyddio taisirddinbych.co.uk

1. Pwy ydym ni

Mae Tai Sir Ddinbych yn cael ei reoli ac yn rhan o Gyngor Sir Ddinbych a chyfeirir ato fel 'ni' neu 'ein' o hyn ymlaen.

2. Defnyddio taisirddinbych.co.uk

Rydych yn cytuno i ddefnyddio taisirddinbych.co.uk yn unig at ddibenion cyfreithlon. Rhaid i chi hefyd ei ddefnyddio mewn ffordd nad yw'n tresmasu ar hawliau unrhyw un, neu’n cyfyngu ar ddefnyddio a mwynhau'r safle hwn, na'i rwystro rhag gwneud hynny.

Rydym yn diweddaru taisirddinbych.co.uk yn gyson. Gallwn newid neu ddileu cynnwys ar unrhyw adeg heb rybudd.

3. Gwasanaethau a thrafodion

Gallwch ddefnyddio taisirddinbych.co.uk i gael gafael ar wasanaethau a thrafodion awdurdodau lleol ar-lein, er enghraifft taisirddinbych.co.uk i dalu eich rhent neu i roi gwybod am atgyweiriad.
Gallwn ni neu adran arall o'r awdurdod lleol reoli'r rhain.

Mae gan rai gwasanaethau eu telerau a'u hamodau eu hunain, sydd hefyd yn berthnasol - darllenwch y rhain cyn i chi ddefnyddio'r gwasanaeth.

4. Cysylltu â taisirddinbych.co.uk


Rydym yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gysylltu â taisirddinbych.co.uk

Rhaid i chi gysylltu â ni i gael caniatâd os ydych chi am wneud un o'r canlynol:

  • codi tâl ar ddefnyddwyr eich gwefan i glicio ar ddolen i unrhyw dudalen ar taisirddinbych.co.uk

  • dweud bod eich gwefan yn gysylltiedig â taisirddinbych.co.uk neu adran arall o'r awdurdod lleol, neu wedi'i chymeradwyo ganddi.

5. Cysylltu o taisirddinbych.co.uk

Mae taisirddinbych.co.uk yn cysylltu â gwefannau sy'n cael eu rheoli gan awdurdodau lleol eraill, adrannau ac asiantaethau'r llywodraeth, darparwyr gwasanaethau neu sefydliadau eraill. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y gwefannau hyn.

6. Nid ydym yn gyfrifol am:

  • ddiogelu unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i'r gwefannau hyn
  • unrhyw golled neu ddifrod a all ddeillio o'ch defnydd o'r gwefannau hyn, neu unrhyw wefannau eraill y maent yn cysylltu â nhw

Rydych yn cytuno i'n rhyddhau ni rhag unrhyw geisiadau neu anghydfodau a all ddeillio o ddefnyddio'r gwefannau hyn.

Dylech ddarllen yr holl delerau ac amodau, polisïau preifatrwydd a thrwyddedau defnyddwyr terfynol sy'n gysylltiedig â'r gwefannau hyn cyn i chi eu defnyddio.

7. Defnyddio cynnwys taisirddinbych.co.uk

Mae'r rhan fwyaf o'r cynnwys ar taisirddinbych.co.uk yn amodol ar ddiogelwch hawlfraint Cyngor Sir Ddinbych. Os nad yw unrhyw gynnwys yn amodol ar ein diogelwch hawlfraint, byddwn fel arfer yn ei briodoli i’r awdur neu ddeilydd yr hawlfraint.

Os ydych am atgynhyrchu darn o gynnwys ond yn ansicr a yw'n cael ei gynnwys yn ein hawlfraint, cysylltwch â ni.

Mae’r rhan fwyaf o'r cynnwys ar taisirddinbych.co.uk ar gael trwy grynodebau i wefannau a rhaglenni eraill eu defnyddio. Nid yw'r gwefannau a'r rhaglenni sy'n defnyddio ein crynodebau yn gynnyrch i ni, ac mae’n bosibl y byddant yn defnyddio fersiynau o'n cynnwys sydd wedi cael eu golygu a'u storio ar gyfer defnydd diweddarach.
Nid ydym yn rhoi unrhyw sicrwydd, amodau na gwarantau ynghylch cywirdeb na chyflawnrwydd unrhyw gynnwys a ddefnyddir gan y cynhyrchion hyn. Nid ydym yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a all ddeillio o'ch defnydd o'r cynhyrchion hyn.

Bydd y fersiwn fwyaf diweddar o'n cynnwys bob amser ar taisirddinbych.co.uk

8. Ymwadiad

Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i gadw taisirddinbych.co.uk yn gyfredol, nid ydym yn darparu unrhyw warantau nac amodau y bydd yr wybodaeth yn:

  • gyfredol
  • diogel
  • cywir
  • cyflawn
  • heb fygiau neu firysau

Nid ydym yn cyhoeddi cyngor ar taisirddinbych.co.uk  Dylech gael cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn gwneud unrhyw beth ar sail y cynnwys.

Nid ydym yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a allai ddeillio o ddefnyddio taisirddinbych.co.uk. Mae hyn yn cynnwys:

  • unrhyw golledion uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol
  • unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan gamweddau sifil ('camri', gan gynnwys esgeulustod), torri contract neu fel arall
  • y defnydd o taisirddinbych.co.uk ac unrhyw wefannau sydd wedi’u cysylltu â hi neu iddi hi
  • yr anallu i ddefnyddio taisirddinbych.co.uk ac unrhyw wefannau sydd wedi’u cysylltu â hi neu iddi hi

Mae hyn yn berthnasol os oedd modd rhagweld y golled neu'r difrod, os oedd yn codi yn ôl y drefn arferol neu os oeddech wedi dweud wrthym y gallai ddigwydd. Mae hyn yn cynnwys (ond heb ei gyfyngu i) golli eich:

  • incwm neu refeniw
  • cyflog, budd-daliadau neu daliadau eraill
  • busnes
  • elw neu gontractau
  • cyfle
  • cynilion a ragwelwyd
  • data
  • ewyllys da neu enw da
  • eiddo amlwg
  • eiddo nad yw’n amlwg, gan gynnwys colli, llygru neu ddifrod i ddata neu unrhyw system gyfrifiadurol
  • gwastraffu amser rheoli neu swyddfa

Efallai y byddwn yn dal i fod yn atebol am:

  • farwolaeth neu anaf personol sy'n deillio o'n hesgeulustod
  • camliwio twyllodrus
  • unrhyw rwymedigaeth arall na ellir ei heithrio neu ei chyfyngu o dan gyfraith berthnasol

9. Ceisiadau i ddileu cynnwys

Gallwch ofyn i ni dynnu cynnwys oddi ar taisirddinbych.co.uk.  Byddwn yn dileu cynnwys:

  • er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data sy'n cwmpasu hawliau a rhyddid unigolion
  • os yw'n torri deddfau hawlfraint, yn cynnwys data personol sensitif neu ddeunydd y gellir ei ystyried yn anweddus neu'n ddifenwol

Cysylltwch i ofyn i ni dynnu'r cynnwys. Bydd angen i chi anfon cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys atom ac egluro pam rydych yn credu y dylid ei ddileu. Byddwn yn ateb i roi gwybod i chi a fyddwn yn ei dynnu.

Rydym yn dileu cynnwys yn ôl ein disgresiwn mewn trafodaeth â'r adran neu'r asiantaeth sy'n gyfrifol amdano. Gallwch barhau i ofyn am wybodaeth dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'r Ddeddf Diogelu Data.

10. Gwybodaeth amdanoch chi a'ch ymweliadau â taisirddinbych.co.uk

Rydym yn casglu gwybodaeth amdanoch yn unol â'n polisi preifatrwydd a’n polisi cwcis. Drwy ddefnyddio taisirddinbych.co.uk, rydych yn cytuno i ni gasglu'r wybodaeth hon ac yn cadarnhau bod unrhyw ddata a ddarparwch yn gywir.

11. Diogelu rhag firysau

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi taisirddinbych.co.uk ar gyfer firysau yn ystod pob cam paratoi. Rhaid i chi sicrhau nad yw'r ffordd rydych chi'n defnyddio taisirddinbych.co.uk yn eich amlygu i'r risg o firysau, cod cyfrifiadurol maleisus neu fathau eraill o ymyriant, a all ddifrodi eich system gyfrifiadurol.

Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i'ch data neu'ch system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth i chi ddefnyddio taisirddinbych.co.uk

12. Firysau, hacio a throseddau eraill

Wrth ddefnyddio taisirddinbych.co.uk, rhaid i chi beidio â chyflwyno firysau, trojans, mwydod, bomiau rhesymeg nac unrhyw ddeunydd arall sy'n faleisus neu'n niweidiol yn dechnolegol.

Ni ddylech geisio gael mynediad anawdurdodedig i taisirddinbych.co.uk, y gweinydd y mae'n cael ei storio arno neu unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy'n gysylltiedig ag ef.

Rhaid i chi beidio ag ymosod ar taisirddinbych.co.uk mewn unrhyw ffordd. Mae hyn yn cynnwys ymosodiadau seiber.

Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw ymosodiadau neu ymdrechion i gael mynediad anawdurdodedig i taisirddinbych.co.uk i'r awdurdodau gorfodi'r gyfraith perthnasol ac yn rhannu gwybodaeth amdanoch gyda nhw.

13. Cyfraith lywodraethol

Caiff y telerau a'r amodau hyn eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr.

Bydd unrhyw anghydfod sydd gennych sy'n ymwneud â'r telerau a’r amodau hyn, neu eich defnydd o taisirddinbych.co.uk  (boed yn gytundebol neu'n anghytundebol), yn ddarostyngedig i awdurdodaeth neilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr.

14. Cyffredinol

Efallai bydd hysbysiadau cyfreithiol mewn mannau arall ar taisirddinbych.co.uk  sy'n ymwneud â sut rydych yn defnyddio'r safle.

Nid ydym yn atebol os methwn â chydymffurfio â'r telerau a'r amodau hyn oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth resymol.

Efallai y byddwn yn penderfynu peidio ag arfer na gorfodi unrhyw hawl sydd ar gael i ni o dan y telerau ac amodau hyn. Gallwn bob amser benderfynu arfer neu orfodi'r hawl honno yn ddiweddarach.
Ni fydd gwneud hyn unwaith yn golygu ein bod yn ildio’r hawl yn awtomatig ar unrhyw achlysur arall.

Os bydd unrhyw rai o'r amodau a thelerau hyn yn annilys, yn anorfodadwy neu'n anghyfreithlon am unrhyw reswm, mae'r telerau ac amodau sy'n weddill yn dal yn berthnasol.

15. Ein Tudalennau Gwe ar y Rhwydwaith Cymdeithasol

Wrth ddefnyddio ein tudalennau gwe ar y rhwydwaith cymdeithasol (fel Facebook, Instagram, YouTube a Twitter), rhaid i chi sicrhau nad oes unrhyw sylwadau a wnewch (gan gynnwys unrhyw ddeunyddiau a gaiff eu cynnwys yn y sylwadau hynny) yn torri unrhyw gyfreithiau perthnasol, rheoliadau neu hawliau trydydd parti (fel deunydd sy'n aflednais, yn anweddus, yn bornograffig, yn fradwrus, yn dramgwyddus, yn ddifenwol, yn fygythiol, yn agored i gymell casineb hiliol, yn beryglus, yn gableddus neu'n groes i hawliau eiddo deallusol unrhyw drydydd parti).

16. Eiddo Deallusol

Diogelir y Wefan, gan gynnwys (ond heb ei chyfyngu i) testun, cynnwys, meddalwedd, graffeg, ffotograffau, darluniau, gwaith celf, ffotograffau, enwau, logos, nodau masnach a deunydd arall ("cynnwys") gan hawlfreintiau, cronfa ddata, nodau masnach a/neu hawliau eiddo deallusol eraill.

Mae'r Cynnwys yn cynnwys y cynnwys sydd yn ein perchnogaeth neu a reolir gennym  a chynnwys sydd ym mherchnogaeth neu a reolir gan drydydd parti ac sydd wedi’u trwyddedu i ni.

Mae'r holl erthyglau, adroddiadau ac elfennau unigol sy'n llunio'r wefan yn weithiau hawlfraint. Rydych yn cytuno i lynu wrth yr holl hysbysiadau hawlfraint neu gyfyngiadau ychwanegol sydd yn y wefan a'r drwydded a nodir isod.

Ni chewch ddefnyddio Tai Sir Ddinbych heb ein caniatâd ac rydych yn cydnabod nad oes gennych unrhyw hawliau perchnogaeth o ran unrhyw un o'r enwau a'r nodau hynny. Rydych yn cytuno i roi gwybod i ni’n ysgrifenedig yn syth ar ôl dod yn ymwybodol o unrhyw fynediad anawdurdodedig i'r wefan neu ddefnydd ohoni  gan unrhyw barti ac o unrhyw honiad bod y wefan  neu unrhyw ran o gynnwys y wefan yn torri unrhyw hawlfraint, nod masnach, neu hawliau cytundebol, statudol neu hawliau cyfraith gyffredin unrhyw barti.

17. Newidiadau i'r telerau a'r amodau hyn

Dylech wirio'r telerau a'r amodau hyn yn rheolaidd. Gallwn eu diweddaru ar unrhyw adeg heb rybudd.

Byddwch yn cytuno i unrhyw newidiadau os byddwch yn parhau i ddefnyddio taisirddinbych.co.uk  ar ôl i'r telerau a'r amodau gael eu diweddaru.