tai@sirddinbych.gov.uk
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Coronafeirws
Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon a phob cyfrif cyfryngau cymdeithasol gyda’r wybodaeth berthnasol i’n tenantiaid ynghylch ein hymateb i’r sefyllfa gyfredol a dolenni defnyddiol i wefannau eraill.
Rydym yn deall bod hyn yn gyfnod anodd i bawb, a hoffem eich sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn oll ag y gallwn i'ch helpu a chefnogi. Arhoswch yn ddiogel ac yn iach.
DIWEDDARIAD I DENANTIAID 22 Mai 2020 – Trefniadau newydd ar gyfer y Coronafeirws (COVID-19)
Yn sgil y sefyllfa newidiol gyda’r Coronafeirws (Covid-19), roeddem eisiau eich sicrhau ein bod yn gwneud y cyfan y gallwn ni i’ch helpu a’ch cefnogi. Mae'r rhain yn cynnwys:
Ymrwymo i’r 4 egwyddor y cytunwyd arnynt gyda Llywodraeth Cymru a landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru:
- Eich cadw’n saff a diogel yn eich cartref
- Eich helpu i gael y gefnogaeth ariannol sydd ei angen arnoch
- Eich cefnogi a dod o hyd i ddatrysiadau os ydych chi’n cael anhawster talu eich rhent
- Gwneud popeth y gallwn i gefnogi eich lles.
Pob ymweliad gan staff tai a chontractwyr Sir Ddinbych i’ch eiddo:
Rydym ni’n dilyn canllawiau’r Llywodraeth Cymru ar fesurau cadw pellter cymdeithasol a lleihau rhyngweithio cymdeithasol cymaint â phosibl er mwyn helpu i leihau lledaenu’r Coronafeirws (Covid-19). Mae’r mesurau’n cynnwys:
- Gweithredu canllawiau cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr
- Fe drefnir apwyntiadau i ymweld â chi neu eich eiddo ymlaen llaw, lle y bo’n bosibl.
- Cyn eich apwyntiad, fe fyddwn yn eich ffonio ac yn gofyn i chi gadarnhau nad ydych chi’n dangos unrhyw symptomau nac yn hunan-ynysu;
- Wrth agor y drws, gwiriwch pwy sydd yno, agorwch y drws, symudwch yn ôl i mewn i’ch eiddo. Bydd y swyddog yn aros 2 fetr i ffwrdd o’ch drws.
Staff a chontractwyr trwsio a chynnal a chadw:
Yn ogystal â mesurau newydd ar gyfer staff a chontractwyr, rydym yn cyflwyno’r mesur canlynol ar gyfer unrhyw waith trwsio a chynnal a chadw a fydd yn cael ei gynnal yn eich cartref:
- Lle y bo’n bosibl, bydd apwyntiadau’n cael eu trefnu cyn ymweld â chi neu eich cartref a byddwn yn eich ffonio 20 munud cyn i ni gyrraedd.
- Pan fyddwch chi’n agor eich drws i adael aelod o staff/contractwr i mewn i wneud y gwaith, sicrhewch eich bod yn symud 2 fetr i ffwrdd, neu ewch i ystafell arall er mwyn iddynt allu dod mewn i’ch eiddo’n ddiogel.
Er enghraifft, os ydych yn cael gwaith trwsio yn eich ystafell ymolchi, cofiwch aros i lawr y grisiau. Ni fyddech yn gallu defnyddio eich ystafell ymolchi tra bo'r atgyweiriadau'n digwydd.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn symud i ystafell wahanol lle mae angen gwneud y gwaith, a gadewch i'r aelod o staff ddechrau'r swydd
- Byddwn yn defnyddio arwyddion i greu amgylchedd gweithio diogel a chadw pellter diogel. Parchwch y rhain.
- •Ar ôl i ni orffen, byddwn yn defnyddio cadachau gwrthfacterol ar bob arwyneb sydd wedi cael ei gyffwrdd a byddwn yn gadael i chi wybod pan fyddwn ni’n gadael
- Os ydych chi’n credu ein bod ni neu unrhyw un yn y tŷ mewn perygl ar unrhyw adeg, byddwn yn gadael ar unwaith.
- Os nad ydych chi’n dilyn y mesurau cadw pellter cymdeithasol, bydd y gwaith atgyweirio yn dod i stop ar unwaith a byddwn yn gadael eich eiddo. Os bydd hyn yn digwydd yn ystod ymweliadau eraill yn y dyfodol, yna bydd y gwaith/ymweliad trwsio yn cael ei ganslo ac ni fyddwn yn ymweld eto nes y rhoddir rhybudd pellach.
Er enghraifft, pan fyddwch yn cael gwaith trwsio yn eich cegin, arhoswch yn eich lolfa neu mewn ystafell arall.
Gwaith adeiladu arall:
- Rydym ni hefyd yn ailddechrau gweithio ar adeiladau newydd, prosiectau gwella allanol ac eiddo gwag. Fe gynhelir asesiad risg penodol ar gyfer y rhain, a byddant yn dilyn canllawiau’r Llywodraeth Cymru.
Cyngor ar gadw pellter cymdeithasol:
- Dilynwch fesurau cadw pellter cymdeithasol 2 fetr yn ogystal â mesurau eraill y mae’r Llywodraeth Cymru wedi’u cyflwyno.
- Dywedwch wrthym ni os nad ydych yn teimlo’n dda, yn hunan-ynysu, neu gydag unrhyw symptom o’r coronafeirws, ac yn disgwyl ymweliad i’ch cartref, rhowch wybod i ni drwy ein ffonio ar 01824 706000.
Ein Canolfannau Cymunedol:
- Fe hoffem atgoffa ein tenantiaid fod ein canolfannau cymunedol yn dal i fod ar gau er diogelwch pawb, yn unol â mesurau cadw pellter cymdeithasol presennol y Llywodraeth Cymru.
Yma i helpu:
- Rydym yma bob amser i helpu ag unrhyw broblemau sydd gennych chi o ran ôl-ddyledion rhent, budd-daliadau a chyngor ariannol cyffredinol, ymddygiad gwrthgymdeithasol neu unrhyw broblemau eraill. Beth am roi caniad i ni heddiw ar 01824 706000.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd sy’n amlinellu’r mathau o gefnogaeth ariannol y gall denantiaid gael mynediad atynt. https://llyw.cymru/coronafeirws-covid-19-cefnogaeth-i-denantiaid
Digwyddiadau cymunedol ac ailadeiladu ein cymunedau:
- Bu’n rhaid i ni ganslo'r holl ddigwyddiadau cymunedol oedd fod i gael eu cynnal. Rydym yn gweithio ar raglen i geisio cefnogi cymunedau’n ddigidol yn ogystal â dulliau amgen eraill. Cadwch lygad ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am ddigwyddiadau newydd yn fuan.
Mae canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref yn casglu casgliadau gwastraff gwyrdd:
- Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi y bydd Lôn Parcwr (Rhuthun), Ystad Ddiwydiannol Colomendy (Dinbych) a Marsh Road (y Rhyl) yn ail-agor yr wythnos sy'n dechrau ar 25 mai trwy apwyntiad yn unig. Mae'r gwasanaethau Canolfan ' pop up ' yng Nghorwen a Llangollen yn dal i fod wedi'u hatal, gan nad ydynt yn gallu sicrhau y byddai ymbellhau cymdeithasol yn cael ei gynnal ar yr adeg hon. Cadwch lygad ar wefan y Cyngor am ragor o wybodaeth.
- Bydd y gwasanaeth casgliadau gwastraff gardd yn ailddechrau ar 18 Mai ar gyfer tanysgrifwyr.
Gwobrau Tenantiaid Tai Sir Ddinbych 2020:
- Rydym wedi penderfynu gohirio ein digwyddiad Gwobrau Tenantiaid Tai Sir Ddinbych a’i gynnal yn nes ymlaen yn y flwyddyn er mwyn bod yn ofalus. Mae’r broses o enwebu dal i fod ar agor a gallwch gyflwyno enwebiadau i www.taisirddinbych.co.uk/gwobrau. Cadwch lygad ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am ddyddiad newydd.
Cadwch lygad ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ac unrhyw newidiadau i'r cyngor hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y mesurau newydd hyn, cysylltwch â ni ar 01824 706000 neu tai@sirddinbych.gov.uk
Geoff Davies
Swyddog Arweiniol - Tai Cymunedol
I gael rhagor o wybodaeth:
Cyngor Sir Ddinbych
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Adran Gwaith a Phensiynau
- Cyngor ar Gredyd Cynhwysol a Budd-daliadau https://www.gov.uk/government/organisations/department-for-work-pensions
Llywodraeth Cymru
Addysg Cymru
Gwefan Comisiynydd Plant
- Mae gan awgrymiadau a chyngor gwych ar gyfer y teulu cyfan. https://www.complantcymru.org.uk/
1. Cyngor Llywodraeth Cymru:
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd sy’n amlinellu’r mathau o gefnogaeth ariannol y gall denantiaid gael mynediad atynt.
https://llyw.cymru/coronafeirws-covid-19-cefnogaeth-i-denantiaid
2. Atgyweiriadau a Chynnal a Chadw:
Rhoi Gwybod am Waith Trwsio:
Oherwydd y sefyllfa gyfredol rydym yn cyflwyno mesurau pellach i ddiogelu ein staff, tenantiaid a chymunedau.
Fel rhagofalon, dim ond gwaith atgyweirio brys a/ neu bwysig fydd yn cael ei ymdrin o’r 23 Mawrth 2020 ymlaen. A fyddech cystal â chysylltu â ni yn ystod yr oriau agor y swyddfa yn unig ar 01824 706000 neu ar rif tu allan i oriau swyddfa os yw’n fater brys - 0300 123 30 68.
I riportio unrhyw waith atgyweirio cyffredinol, ewch i a byddwn yn ymateb i’ch ymholiad cyn gynted ag y gallwn.
Gwiriadau Diogelwch Nwy:
Gwybodaeth Gwasanaethu Boeler Nwy– mae ein contractwyr, Liberty Gas yn parhau i wasanaethu ein boeleri yn ystod y gwaharddiad i bob symudiad yn unol â rheoliadau a chanllawiau Gweithrediaeth Iechyd a Diogelwch https://www.hse.gov.uk/gas/landlords
Mae’r peirianwyr yn dilyn canllaw'r llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol a Chyfarpar Diogelu Personol i ddiogelu pawb. Mae diogelwch ein staff a'n tenantiaid yn bwysig, felly cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch peirianwyr yn ymweld â'ch cartref, yn arbennig os ydych yn hunan-ynysu neu'n dangos symptomau o COVID-19.
3- Ymweliadau i’r Cartref:
Mae ein staff yn parhau i ddarparu ein gwasanaeth y gorau gallwn yn ystod y sefyllfa gyfredol a sefyllfa sy’n newid gyda'r coronafeirws, COVID-19.
Er diogelwch pawb, os yw aelod o’n staff yn dod i’ch cartref, cofiwch ddefnyddio mesurau cadw pellter cymdeithasol y llywodraeth yn ystod yr ymweliad. Os nad ydych yn teimlo’n dda, yn hunan-ynysu, ac/neu gydag unrhyw symptomau o’r coronafeirws, neu’n anwybyddu'r mesurau hyn, ni fydd staff yn gallu parhau â’ch ymweliad am resymau diogelwch.
Os nad ydych yn teimlo’n dda, yn hunan-ynysu, neu gydag unrhyw symptom o’r coronafeirws, ac yn disgwyl ymweliad i’ch cartref, rhowch wybod i ni drwy ein ffonio ar 01824 706000.
4. Cyngor i Bobl Hŷn:
- ‘Cysylltu a Sgwrsio' ("Check-in-and-Chat”) – Mae cadw cysylltiad yn bwysig iawn! Gwasanaeth ffôn rhad ac am ddim yw Cysylltu a Sgwrsio ar gyfer bobl dros eu 70au, gwasanaeth gan Age Cymru.Gallwch gofrestru, yn rhad ac am ddim, i gael galwad ffôn rheolaidd gennym ni yn Gymraeg neu’n Saesneg. Ffoniwch 08000 223 444.
- Age Cymru – I gael gwybodaeth a chyngor ymarferol ar gyfer yr henoed, cysylltwch ag Age Cymru ar 08000 223 444.
- Un Pwynt Mynediad yw gwasanaeth y Cyngor sydd yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi eich iechyd a lles. Mae croeso i chi gysylltu â nhw ar 0300 456 1000.
- I gael sgwrs hwyliog, dydd neu nos, ffoniwch Silver Line, llinell gymorth gyfrinachol am ddim sy’n darparu gwybodaeth a chyfeillgarwch i bobl hŷn, ar agor 24 awr dydd, bob dydd o’r flwyddyn ar 0800 4 70 80 90.
5 – Lleoedd sydd wedi Cau:
-
Cau Canolfan Gymunedol
Rydym wedi cau ein canolfannau cymunedol hyd nes rhoddir rhybudd pellach yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth. -
Gerddi Cymunol ac Ardaloedd Tu Allan
Yn unol â mesurau cadw pellter cymdeithasol cyfredol y Llywodraeth, peidiwch ag ymgasglu mewn unrhyw fan cyhoeddus na chymunol. Mae hyn er mwyn ceisio stopio ac arafu lledaeniad COVID-19.
Rydym yn eich cynghori i ddilyn y mesurau uchod, yn arbennig os ydych mewn categori risg uchel, yn hunan-ynysu neu’n dangos unrhyw symptomau. Mae’r mesurau hyn mewn lle i’ch diogelu chi a’ch cymuned nes rhoddir rhybudd pellach. -
Ardaloedd chwarae
Rydym wedi cau pob un o’n meysydd chwarae i gefnogi’r canllawiau cadw pellter cymdeithasol cyfredol nes rhoddir rhybudd pellach.
6 - Cam-Drin Domestig:
Yn ystod y cyfnod hunan-ynysu, bydd gan nifer o bobl ofn i gamdriniaeth gan eu partner gynyddu. Nid yw hyn yn dderbyniol. Os ydych chi’n profi cam-drin domestig, nid arnoch chi mae’r bai a nid ydych chi ar ben eich hun. Mae help a chymorth ar gael yn https://www.north-wales.police.uk/news-and-appeals/don-t-suffer-in-silence?lang=cy-gb
7 Digwyddiadau:
Rydym wedi gohirio pob un o’n digwyddiadau cymunedol gan gynnwys ein Gwobrau Tenantiaid Tai Sir Ddinbych oedd i’w gynnal ym mis Mai nes rhoddir rhybudd pellach. Cyn gynted ag y byddwn yn gallu trefnu’r rhain eto, mi fyddwn yn rhoi gwybod i chi.
8 Iechyd a Lles:
Dyma restr o wefannau defnyddiol iawn i’ch helpu gyda’ch iechyd a lles:
- Every Mind Matters
- Young Minds – Mae awgrymiadau a chyngor gwych ar gyfer iechyd a lles plentyn yn Young Minds.
- Minds
- GIG
- Action for Happiness
- Ffitrwydd:
- Gwasanaethau ar-lein Llyfrgell Sir Ddinbych -
- Mae gan ein gwasanaethau Llyfrgell e-lyfrau gwych ar gael https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/en_GB/denbighshire_en/
- https://www.denbighshire.gov.uk/en/resident/libraries-and-archives/digital-downloads.aspx
- Ymgyrch Edrych ar ôl ein gilydd - Llywodraeth Cymru – Mae Ymgyrch Edrych ar ôl ein Gilydd yn ffocysu ar bethau bychain y gallwn eu gwneud i helpu ein gilydd yn ystod y pandemig. Mae’n darparu canllaw ymarferol ynghylch tasgau dyddiol megis nôl neges neu cadw mewn cysylltiad a’u gwneud yn ddiogel, heb gyswllt corfforol i leihau’r risg o ddal y coronafeirws. Yn ogystal bydd yn rhannu gwybodaeth ar sut i gadw’n yn gorfforol egnïol ac yn feddyliol. Ewch i i gael rhagor o wybodaeth.