
Prosiect Sir Ddinbych yn ennill gwobr fawreddog
Mae prosiect lles cymunedol arloesol wedi ennill y categori ‘Ymgysylltu Tenantiaid mewn Mentrau/Prosiectau Amgylcheddol’ yng Ngwobrau Arfer Da TPAS Cymru 2025.
Cwblhawyd y prosiect mewn partneriaeth gan Dîm Cydnerthedd Cymunedol Cyngor Sir Dinbych, Actif Gogledd Cymru, Grŵp Cynefin a Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor.
Cynhaliwyd y gwobrau cenedlaethol yng Nghaerdydd ar 25 Mehefin, ac roedd y categori newydd hwn yn cydnabod landlord, sefydliad neu grŵp cymunedol sydd wedi llwyddo i ymgysylltu Tenantiaid neu Breswylwyr mewn mentrau sy'n fuddiol i'r amgylchedd, naill ai’n fyd-eang neu'n lleol.
Mae’r prosiect buddugol, Partneriaethau Ffyniannus, Trawsnewid Cymunedau, yn enghraifft wych o sut y gall cydweithio ar synnwyr o le wedi’i arwain gan y gymuned lywio newid ystyrlon. Drwy bartneriaethau ac ymgysylltu cryf â thenantiaid a’r gymuned yng Nghlawdd Poncen a Dinbych Uchaf, mae’r fenter wedi llwyddo i fynd i’r afael ag anweithgarwch corfforol, arwahanrwydd cymdeithasol ac anghydraddoldebau iechyd.
Wrth roi adborth am y cais buddugol, dywedodd y beirniaid:
“Roedd y prosiect yma’n sefyll allan. Drwy dewis ardaloedd fel Dinbych Uchaf a Chlawdd Poncen, sy'n wynebu amddifadedd uchel, mae’n dangos ymrwymiad cryf i gynhwysiant yn y gymuned. O grwpiau ieuenctid i denantiaid tai cymdeithasol, roedd gan bawb lais, ac roedd yn amlwg eu bod yn cael eu clywed.”
“Gallwch weld a theimlo'r trawsnewidiad. Mae caeau nad oedd yn cael eu defnyddio'n llawn bellach yn berllannau, trac beics, gyda meinciau, a llwybrau ffitrwydd oll wedi'u cynllunio gyda thrigolion. Mae llai o ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mae pobl yn cymryd perchnogaeth o’r ardaloedd hyn. Mae hwn yn engrhaifft dda iawn o ymgysylltu cymunedol.”
“…y dangosyddion perfformiad allweddol - y cynllun, sut maen nhw wedi'i gyflawni ac yn olaf fel mae’r cais yn adlewyrchu'r trawsnewidiad gwirioneddol. Roeddwn i wir yn ei hoffi.”
Meddai Nerys Price-Jones, Cyfarwyddwr Pobl, Grŵp Cynefin: "Mae’r prosiect hwn yn amlygu pŵer cydweithredu a gweithredu dan arweiniad y gymuned wrth greu mannau mwy gwyrdd a chysylltiedig.
Mae’r wobr yn dyst i’r angerdd, creadigrwydd ac ymrwymiad ein staff a’n partneriaid. Dyma brosiectau sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i’n cymunedau a’n hamgylchedd.”
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau:
“Hoffwn longyfarch pawb fu’n rhan o’r prosiect gwych hwn am eu cydnabyddiaeth haeddiannol wrth ennill gwobr TPAS Cymru.
“Mae llwyddiant prosiect Actif Sir Ddinbych yn seiliedig ar bartneriaeth, amlygir hyn gan y ffaith bod y ddau Gydlynydd Actif ym mhob ardal yn cael eu cyflogi gan sefydliadau gwahanol, sy’n adlewyrchu ymddiriedaeth a dealltwriaeth o gryfderau unigryw bob cymuned.
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill ac yn falch o arddangos pŵer trawsnewid dan arweiniad y gymuned.
“Mae’r llwyddiant hwn yn dathlu model arloesol y prosiect fel un y gellid ei efelychu mewn cymunedau eraill ledled Cymru.”
Gallwch ddarllen mwy am y prosiect yn newyddion
Ariannwyd y prosiectau hyn gan Gronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU trwy Actif Gogledd Cymru a’r rhaglen Natur er Iechyd.
Partneriaid y Prosiect:
- Cyngor Sir Ddinbych - Tai, Gwasanaethau Ieuenctid, Cadernid Cymunedol, Gwasanaethau Cefn Gwlad
- Actif Gogledd Cymru
- Hwb Dinbych Grŵp Cynefin
- Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy - Rhaglen Natur er Budd Iechyd
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) - Tîm Iechyd Cyhoeddus
- Hamdden Sir Ddinbych Cyf - Tîm Chwaraeon Cymunedol
Fideo o’r uchafbwyntiau:
Prosiect Clawdd Poncen
Prosiect Dinbych Uchaf