
Cyflwyniad i’ch cartref Newydd - Llys Llên, Prestatyn
Croeso i’ch cartref newydd! Mae’r canllaw byr hwn yn bwynt cyfeirio cyflym i’ch rhoi ar ben ffordd yn eich cartref newydd. Ceir cyflwyniad byr isod ynghylch rhai o’r offer sydd gennych yn eich cartref, sy’n gweithio gyda’i gilydd i wneud eich cartref yn fwy ynni’n fwy effeithlon.
Newyddion gwych, mae paneli solar wedi’u gosod ar do eich cartref ac mae gennych fatris.
Sut mae hyn i gyd yn gweithio?
Paneli solar – Mae’r rhain yn creu cerrynt uniongyrchol, ac ynni solar, sy’n cael ei anfon at y gwrthdroydd hybrid.
Gwrthdroydd hybrid – Mae’r rhain yn trosi’r cerrynt uniongyrchol i gerhyntau eiledol, ynni, sydd yn cael ei ddefnyddio i bweru’r offer trydanol yn eich cartref. Bydd angen mynediad at WiFi ar y gwrthdroydd hybrid.
Batri – Os oes ynni dros ben nad yw eich cartref yn ei ddefnyddio, bydd y gwrthdroydd hybrid yn anfon cerrynt uniongyrchol i’r batri i’w wefru.
Os nad oes digon o ynni solar yn cael ei gynhyrchu, bydd y batri yn cael ei ddefnyddio i bweru’ch cartref nes bod dim ynni ar ôl ynddo.
Os nad oes ynni solar nac ynni ar ôl yn eich batri, byddwch yn defnyddio / talu am drydan o’r grid. Fel y byddech yn ei wneud yn flaenorol.
Ar ddiwrnodau heulog, bydd eich paneli solar yn cynhyrchu trydan, y gallwch ei ddefnyddio yn ystod y dydd, gan leihau eich biliau trydan. Mae gennych fatris hefyd, sy’n storio ynni na ddefnyddiwyd, felly gallwch ei ddefnyddio ar adegau eraill o’r dydd. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth iddynt.
Os ydych chi’n credu nad yw eich paneli solar yn gweithio’n dda, cysylltwch â ni.
Nid oes cyflenwad nwy yn eich cartref gan ei fod yn rhedeg ar bwmp gwres o’r ddaear.
Beth yw Pwmp Gwres o’r Ddaear? Sut mae’n gweithio?
Mae’ch system wresogi newydd yn cael ei phweru gan bwmp gwres o’r ddaear Kensa sy’n hynod effeithlon ac sy’n cyflenwi 100% o anghenion gwresogi a dŵr poeth eich eiddo gyda gwres cynaliadwy o’r ddaear.
Mae rhwydwaith o ddyfrdyllau wedi’u drilio yn y tir o amgylch eich eiddo, sy’n aros ar dymheredd cyson trwy gydol y flwyddyn.
Mae’r dyfrdyllau yn echdynnu’r gwres adnewyddadwy hwn a’i fwydo i mewn i’r pwmp gwres, sy’n defnyddio trydan i grynodi’r gwres i godi ei dymheredd a’i bwmpio o amgylch eich tŷ.
Mae pympiau gwres o’r ddaear deirgwaith yn fwy effeithlon na bwyler nwy, gyda phob 1kW o drydan yn cynhyrchu 3-4kW o wres. Mae hyn yn golygu bod cyfran fawr o’r gwres a ddefnyddiwch yn dod o’r ddaear am ddim.
Nid oes angen gwasanaethu’r pwmp gwres o’r ddaear yn barhaus, ac mae’n eithriadol o gadarn a dibynadwy ac wedi’i ddylunio i bara am 25 mlynedd.
I ganfod mwy am bympiau gwres o’r ddaear, gwyliwch fideo Kensa ar-lein ar: https://www.youtube.com/KensaHeatPumps
I’ch helpu i ymgartrefu yn eich cartref newydd, byddwn ni o gwmpas i roi cefnogaeth ac arweiniad yn ystod yr wythnosau a’r misoedd cyntaf. Gallwch ddisgwyl:
Wythnos gyntaf:
- Byddwn yn eich helpu i ymgartrefu yn eich cartref a’ch cymuned newydd.
- Cymerwch amser i ddarllen drwy’r canllawiau hyn a’r fersiwn lawn ar-lein, a dod i ddeall sut i fyw yn eich cartref yn y ffordd fwyaf effeithlon.
- Cysylltwch os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw beth.
Ail wythnos:
- Ar ôl i chi ymgartrefu, bydd aelod o’n tîm yn eich ffonio i drefnu ymweliad ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Wrth gwrs, os oes unrhyw beth brys, cysylltwch cyn hynny.
1 Mis:
- Bydd aelod o’n tîm atgyweirio a chynnal a chadw, a’ch swyddog tai yn ymweld â chi i wirio bod popeth yn iawn.
3 Mis:
- Bydd aelod o’n tîm yn dod i ddarllen eich mesuryddion a dangos i chi sut i wneud hynny.
- Byddwn yn anfon e-bost a neges destun gyda ffurflen adborth i weld sut ydych yn ymgartrefu, a chanfod a oes unrhyw beth y gallem ei wneud yn well.
6 Mis:
- Bydd eich swyddog tai yn dod i weld sut ydych yn ymgartrefu.
Y flwyddyn gyntaf:
- Byddwn yn galw heibio i wirio eich cartref gan edrych ar:
- Sut rydych chi wedi ymgartrefu yn eich cartref.
- Oes yna graciau crebachu sydd angen eu trwsio.
- Cael adborth gennych chi am eich blwyddyn gyntaf yn eich cartref a gofyn a hoffech gymryd rhan mewn stori ar gyfer y papurau newydd lleol a’n newyddlen i denantiaid.
Cyngor o ddydd i ddydd ar sut i gael y gorau allan o fyw yn eich cartref newydd
- I gael y gorau allan o’ch paneli solar, ceisiwch ddefnyddio eich ynni yn ystod y dydd pan fo’r haul yn tywynnu.
- Defnyddiwch 1 teclyn ar y tro yn hytrach na 2 neu 3 ar yr un pryd, gan y byddai hyn yn defnyddio llai neu ddim trydan o’r grid (yn dibynnu ar faint o heulwen sydd).
- Yn ystod misoedd y gaeaf bydd eich cyflenwr ynni yn ychwanegu at eich batri solar bob 20 niwrnod.
Pam?
Er mwyn i’r batri storio barhau i weithio’n dda, y mae’n bwysig ei fod yn cael ei wefru’n llawn a’i adael i fynd yn isel bob 20 niwrnod.
Sut?
Bob 20 niwrnod, bydd eich cyflenwr trydan yn ychwanegu ynni i’ch batri gan ddefnyddio unrhyw gredyd sydd gennych ar eich cyfrif. Byddwch wedyn yn defnyddio’r trydan hwnnw yn ystod y dyddiau canlynol, tan fydd y batri wedi mynd yn isel. Ychwanegir ato eto ymhen 20 niwrnod.
Er enghraifft: Os oes gennych fesurydd ‘talu ymlaen llaw/talu wrth fynd’, a’ch bod wedi rhoi arian ar eich cyfrif, caiff ei drosglwyddo’n syth i drydan. Mae hwn yn cael ei storio yn y batri er mwyn i chi ei ddefnyddio, felly ni fyddwch yn defnyddio trydan o’r grid cenedlaethol.
Enghraifft arall: Os ydych yn ychwanegu gwerth £10 at eich trydan, ac y mae’n ddiwrnod 20 ac mae angen ychwanegu at y batri. Gall y batri gymryd tua £6 o’ch lwfans a’i storio.
Peidiwch â phoeni, nid ydych wedi colli’ch arian, mae wedi ei storio fel trydan yn eich batri yn barod i’w ddefnyddio pan fyddwch ei angen tan i’r batri wagio.
Mae’r dŵr poeth yn dod o silindr dŵr poeth trydan, sydd wedi’i leoli yn y gofod cwpwrdd yn y cyntedd.
Caiff eich dŵr ei wresogi trwy system gymunol gwres o’r ddaear sy’n darparu dŵr poeth i bob eiddo yn Llys Llên.
Mae’ch thermostat ystafell yn eich cyntedd. Mae’n dweud wrthych beth yw tymheredd eich cartref.
Bydd yn anfon signal i’r bwyler yn dibynnu ar dymheredd eich cartref. Os yw eich cartref yn mynd yn rhy boeth, bydd yn anfon signal i’r boeler i ddiffodd y gwres a bydd yn troi ymlaen pan fydd eich tŷ yn mynd yn rhy oer.
Mae’r thermostat fel arfer yn cael ei osod rhwng 18ºC a 21ºC.
Mae’r amserydd neu’r rhaglennydd yn eich helpu i reoli pryd mae’ch gwres yn dod ymlaen ac yn diffodd. Trwy ei raglennu, gallwch wneud yn siŵr ei fod yn gweithio yn y ffordd fwyaf addas i chi a’ch cartref. Dyma awgrym ar sut i wresogi’ch cartref. Gosodwch y rhaglen fel bod eich gwres yn dod ymlaen hanner awr cyn i chi:
- Godi yn y bore.
- Dod adref.
- Mynd i’r gwely neu fynd allan.
Fel arfer bydd cartref yn cymryd hanner awr i gynhesu ac oeri. Trwy wneud hyn, dylai’ch cartref fod yn gynnes heb wastraffu ynni.
Mae rheiddiaduron yn eich cartref. Maent yn cael eu gwresogi trwy system gwres o’r ddaear sydd wedi’i gosod o amgylch yr ystâd.
- Ceisiwch ddefnyddio offer y cartref sy’n arbed ynni (cyfradd A) a bylbiau golau ynni isel.
- Caewch y tapiau os nad ydych yn defnyddio’r dŵr.
- Agorwch y bleindiau a’r llenni yn ystod y dydd yn y gaeaf.
- Peidiwch â gorchuddio’r rheiddiaduron gyda gwrthrychau fel bagiau, gan y bydd hyn yn atal y gwres rhag cylchredeg o amgylch yr ystafell.
- Dylech osgoi defnyddio llenni hir sy’n gorchuddio’r rheiddiaduron.
- Byddwn yn trefnu bod eich system MVHR, paneli solar a’r cyfnewidiwr gwres o’r aer yn cael eu gwasanaethu’n flynyddol.
- Siopwch o gwmpas am ddarparwr ynni – mae gan wahanol gyflenwyr wahanol gynigion.
- Gwnewch newidiadau tymhorol i gael y gorau o’ch system wresogi. Er enghraifft, yn ystod tywydd cynnes meddyliwch a oes angen i’r gwres fod ymlaen.
- Dylech bob amser gysylltu â ni ar 01824 706000 yn ystod oriau gwaith os ydych am wneud unrhyw newidiadau i’ch cartref.
Lle bo hynny’n bosibl, peidiwch â:
Gorchuddio neu gau bylchau o amgylch y drysau mewnol yn eich cartref. Mae’r rhain yno i helpu i gylchredeg aer o gwmpas y tŷ.
Cyngor ac awgrymiadau ar gyfer gwresogi
Ceisiwch ostwng eich thermostat gradd neu ddau – efallai nad yw hynny’n swnio’n llawer, ond bydd newid bach fel hyn yn cael effaith enfawr ar eich biliau. Yn amlwg, peidiwch â’i ostwng i bwynt ble mae’ch ystafell yn teimlo’n oer, ond trwy droi eich thermostat i lawr 1 gradd gallech arbed tua 10% ar eich bil ynni blynyddol. Mae hefyd yn eithriadol o bwysig nad ydych yn gosod eitemau dros eich thermostat fel cotiau neu gelfi.
Gofalwch bod gosodiadau’r amserydd ar eich rheolydd yn gywir. Edrychwch ar amserlen eich cartref a phryd y bydd angen iddo fod yn gynnes, yna gosodwch yr amserwyr yn unol â hynny – er enghraifft, cyn i chi ddeffro neu ar ôl i chi orffen gwaith. Nid oes angen i’r gwres fod ymlaen pan nad ydych yn ei ddefnyddio.
Trwy greu amserlen a gosod eich pwmp gwres i gynhesu dŵr ar wahanol amser i’ch system wresogi, byddwch yn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o ddŵr poeth ar gyfer eich anghenion.
Diffoddwch y gwres neu trowch y gwres i lawr i’r gosodiad diogelu rhag rhew yn yr ystafelloedd nad ydych yn eu defnyddio. Trwy addasu’r tymheredd ym mhob ystafell, byddwch yn cael mwy o reolaeth dros eich system wresogi a faint o ynni yr ydych yn ei ddefnyddio.
Pan fyddwch yn gwresogi’r ystafelloedd sydd angen eu gwresogi yn unig, gofalwch eich bod yn cadw drysau mewnol ar gau fel nad yw’r gwres yn dianc allan i weddill y tŷ.
Peidiwch â dal gwres yn eich rheiddiaduron. Gofalwch nad oes llenni na chelfi yn atal gwres rhag mynd i mewn i’r ystafell. Codwch eich llenni ar y silff ffenestr os oes angen a thynnwch eich soffa ymlaen.
Mae falfiau thermostatig wedi’u gosod ar eich rheiddiaduron i’ch galluogi i reoli’r tymheredd mewn ystafelloedd unigol. Mae rhifau o 1 i 5 ar y falfiau sy’n cyfateb i dymheredd yr ystafell.
Rydym yn argymell gwneud newidiadau bach bob dydd nes i chi ddod o hyd i’r tymheredd gorau i chi; rydym yn awgrymu dechrau ar rif 2-3 mewn ystafelloedd gwely, yn y cyntedd a’r gegin, a 3-5 yn y lolfa a’r ystafell ymolchi.
Mae cyngor ar sut i gael o gorau allan o’ch paneli solar a’ch ynni batri ar gael ar dudalen 11.
Mae rheiddiaduron yn mynd yn boeth ac felly maent yn denu llwch a baw fel magnet os nad ydynt yn cael eu glanhau. Gall y baw sy’n casglu fod yn sylweddol. Gall rheiddiaduron budr iawn fod yn llai effeithlon na rhai glân, gan wneud i’ch system ddefnyddio mwy o ynni i gynhesu’r ystafell, a bydd hynny’n cael ei adlewyrchu mewn biliau ynni uwch.
Ceisiwch lanhau’r esgyll darfudol yn rheolaidd - sef y rhigolau igam-ogam sy’n rhedeg i lawr cefn y rheiddiadur (a’r blaen). Gellir gwneud hyn gyda brwsh rheiddiadur coes hir neu trwy redeg blaen chwistrell eich sugnwr llwch ar hyd y top a’r gwaelod.
Mae Switchee yn thermostat clyfar, wedi’i gysylltu, ar gyfer eich gwres a’ch dŵr poeth. Nid oes angen ei gysyllti â’ch Wi-Fi er mwyn iddo weithio.
Am gyngor ar:
- Yr ap
- Eich system thermostat glyfar
- Rheoli eich gwres a’ch dŵr poeth
- Gosod amserydd
- Cwestiynau cyffredin a datrys problemau
Ewch i https://switchee.com/residents/ lle mae fideos defnyddiol iawn a chanllawiau ar eich cyfer.
Os nad oes gennych chi fynediad at y rhyngrwyd, gadewch i ni wybod a gallwn drefnu bod rhywun yn galw heibio i ddangos sut mae defnyddio eich thermostat clyfar.
Effeithlonrwydd Ynni
Wrth i filiau ynni godi, dyma ychydig o gyngor ac awgrymiadau ar bethau y gallwch eu gwneud i helpu:
- Gofalwch eich bod yn defnyddio sosban y maint cywir ar gyfer y bwyd a’r hob.
- Gofalwch eich bod yn gosod y caead ar y sosban i gadw’r gwres i mewn.
- Wrth ferwi llysiau a phasta, dylech ddefnyddio digon o ddŵr i’w gorchuddio yn unig.
- Mae popty microdon yn fwy effeithlon o ran ynni na phopty traddodiadol, felly defnyddiwch bopty microdon lle bo hynny’n bosibl, ond cofiwch ei ddiffodd yn y wal pan nad ydych yn ei ddefnyddio.
- Coginiwch lawer o fwyd ar unwaith pan ydych yn defnyddio’ch popty traddodiadol. Gallwch rewi bwyd i’w gynhesu rywbryd eto a gallai hynny arbed amser i chi hefyd.
- Mae bwydydd wedi’u torri yn ddarnau llai yn coginio’n gynt ac yn arbed amser.
- Gofalwch bod y cylchoedd pentan ar y popty yn lân gan fod bwyd wedi llosgi yn amsugno gwres ac yn gwneud y cylch yn llai effeithlon.
- Dylech ddadrewi eich oergell a’ch rhewgell yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio mor effeithlon ag sy’n bosibl ac i atal iâ rhag casglu. Darllenwch y canllawiau defnyddio ar gyfer eich offer i gael mwy o gyngor yn ôl yr angen.
- Os yw eich oergell a’ch rhewgell yn llawn, nid ydynt yn gorfod gweithio mor galed a byddant yn defnyddio llai o ynni.
- Gofalwch fod bwyd wedi oeri cyn i chi ei roi yn yr oergell neu’r rhewgell.
- Gofalwch eich bod yn rhoi llwythi llawn ac nid hanner llawn ymlaen.
- Pan fo’n bosibl, defnyddiwch raglen arbed ynni ar eich peiriant golchi.
- Sychwch eich dillad yn yr awyr agored pan fo hynny’n bosibl, a pheidiwch â rhoi dillad ar y rheiddiadur i sychu. Mae hyn yn cynyddu lefelau anwedd yn yr aer yn eich cartref ac yn cynyddu’r risg o falltod du.
- Manteisiwch ar y trydan sy’n cael ei gynhyrchu gan eich paneli solar a defnyddiwch offer y cartref yn ystod y dydd (yn enwedig ar ddyddiau heulog).
- Gofalwch bod offer y cartref yn cael eu diffodd yn y wal pan nad ydych yn eu defnyddio gan fod rhai offer yn dal i ddefnyddio ynni ar ôl gwasgu’r botwm cysgu (stand-by).
- Defnyddiwch fylbiau golau arbed ynni o amgylch eich cartref, a gofalwch eich bod yn diffodd y golau pan nad ydych yn yr ystafell.
Cwestiynau Cyffredin:
Nid oes gan eich cartref chi system wresogi arferol. Am y rhan fwyaf o’r flwyddyn, ni ddylai fod angen i chi droi’r gwres ymlaen. Bydd y ffenestri a’r deunydd insiwleiddio yn helpu i gadw’r gwres i mewn.
Yn y gaeaf, pan nad yw’n heulog y tu allan, efallai y bydd angen i chi ychwanegu gwres.
Gallwch raglennu eich system wresogi a dŵr poeth i droi ymlaen a diffodd hyd at dair gwaith y dydd. Ewch i https://switchee.com/residents/ am fideos a chanllawiau defnyddiol, neu sganiwch y cod QR wrth ymyl eich cyfarpar.
Mae mesurydd wedi’i osod yn eich cartref. Rydym wedi cofrestru eich mesurydd trydan gyda Nwy Prydain. Os ydych yn dymuno newid darparwr, cysylltwch â’ch cyflenwr ynni dewisedig.
Peidiwch â rhoi dillad gwlyb ar reiddiaduron i sychu.
Bydd eich system wresogi wedi’i gosod rhwng 16 a 22 gradd, ond gallwch addasu’r tymheredd fel y mynnoch.
Yn y gegin mae gennych ffan echdynnu uwchben yr ardal goginio a fydd yn sugno arogleuon allan o’r gegin. Yn yr ystafell ymolchi, bydd gennych ffan echdynnu a fydd yn dod ymlaen pan rydych yn rhoi golau’r ymlaen.
Os caiff ei adael heb ei drin, gall lleithder ac anwedd arwain at lwydni. Er mwyn helpu i leihau hyn yn eich cartref:
Os oes dafnau o ddŵr yng nghorneli ffenestri a waliau, dylech eu sychu gyda chadach.
Os hoffech fwy o awgrymiadau ar leihau anwedd, ewch i’n gwefan: https://www.taisirddinbych.co.uk/lleithder/
I wneud yn siŵr bod eich cartref yn parhau i ddiwallu eich anghenion, bydd angen cymeradwyaeth ysgrifenedig arnoch gan ein tîm atgyweirio a chynnal a chadw cyn gwneud unrhyw newid neu waith addasu.
Byddai angen i ddifrod i’ch cartref gael ei atgyweirio ar unwaith gan aelod o’n tîm ac mae’n bosibl y codir tâl am hynny.
Rydym wedi darparu blwch llythyrau allanol ym mhrif gyntedd yr adeilad. Byddwch yn cael goriad ar ei gyfer.
Nid oes modd gosod pibell awyru y tu allan ar gyfer sychwr dillad arferol ac nid oes lle ar ei gyfer.
Ydych, ar yr amod eich bod chi’n eu gosod yn saff.
Dyma un o’r darnau pwysicaf o wybodaeth ynglŷn â byw yn eich cartref newydd. Gan fod hwn yn adeilad cymunedol, nid ydych chi’n gallu rhoi unrhyw beth y tu allan i’ch cartref sy’n sownd wrth wal neu reiliau.
Oes, mae yna lifft yn yr adeilad – cofiwch ddilyn y cyngor yn y lifft. Peidiwch â rhoi beics, sgwteri na dodrefn yn y lifft.
Peidiwch â defnyddio’r lifft pan fo tân – dilynwch y canllaw diogelwch tân am fwy o wybodaeth.
Ni ddylid defnyddio’r ardal ar ben grisiau i gadw unrhyw beth oherwydd y gall hynny achosi perygl tân. Defnyddiwch eich rhandy i gadw eich eitemau, ac eithrio beics a sgwteri. Efallai bydd yna lefydd i storio’r rhain y tu allan i’r rhandai.
Nac ydych, oherwydd y gall hynny achosi perygl tân. Defnyddiwch eich rhandy i gadw eich eitemau, ac eithrio beics a sgwteri. Efallai bydd yna lefydd i storio’r rhain y tu allan i’r rhandai.
Ydy, mae'r storfa beiciau y tu ôl i fflatiau Llys Bodnant.
I agor y drws ffrynt y bloc, defnyddiwch eich ffob drws. Mae’r uned intercom y tu allan i brif ddrws ffrynt yr adeilad, gyda rhif bob rhandy ar y panel.
Ydych – defnyddiwch eich ffob drws.
Mae’r storfa finiau yng nghefn y rhandai, ger y maes parcio.
Gallwch barcio ar y safle. Mae yna faes parcio i ymwelwyr yn y prif faes parcio talu ac arddangos gerllaw.
Nac oes.
- Cyngor Sir Ddinbych: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/budd-daliadau-grantiau-a-chyngor-arian/cymorth-costau-byw/cymorth-costau-byw.aspx)
- Llywodraeth: https://helpforhouseholds.campaign.gov.uk/energy-saving-advice/
- Nyth Cymru: https://nyth.llyw.cymru/
- Cyngor ar Bopeth: https://www.cadenbighshire.co.uk/
- Byw mewn cartref sy’n defnyddio ynni'n effeithlon, lleihau eich allyriadau carbon a gostwng eich biliau ynni, ewch i https://energysavingtrust.org.uk/energy-at-home/
I lawrlwytho PDF o'r canllaw hwn, cliciwch y ddolen hon.