Ymwadiad

Caiff Tai Sir Ddinbych ei reoli gan Gyngor Sir Ddinbych ac mae’n rhan o’r cyngor hwnnw, a chyfeirir ato fel ‘ni’ neu ‘ein’ o hyn allan.

Rydym yn ceisio cynnal cywirdeb a dibynadwyedd y wefan hon; fodd bynnag nid ydym yn gwneud unrhyw ddatganiadau am gywirdeb, dibynadwyedd, cyflawnder nac addasrwydd y wybodaeth, cynnyrch, gwasanaethau a graffeg cysylltiedig sydd wedi’u cynnwys ar y wefan hon at unrhyw ddiben. Ni fyddwn ni, ein gweithwyr, cyflenwyr a phartïon eraill sy’n ymwneud â chreu a darparu’r wefan hon yn atebol am unrhyw ddifrod, colled neu anghyfleustra uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol, arbennig neu ganlyniadol a achosir gan ddibyniaeth ar gynnwys y wefan hon, neu sy’n codi o ddefnyddio’r wefan hon.

Rydym yn darparu mynediad i’r wefan hon a defnydd ohoni yn amodol ar y telerau ac amodau canlynol:

1. Golyga eich defnydd o’r wefan hon eich bod yn derbyn y telerau ac amodau hyn, sy’n dod i rym o’r dyddiad wnaethoch ddefnyddio’r wefan am y tro cyntaf. Rydym yn cadw’r hawl i newid y telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg trwy roi gwybod am unrhyw newidiadau ar-lein. Os byddwch yn dal i ddefnyddio’r wefan hon ar ôl i unrhyw newidiadau gael eu rhannu, mae’n golygu eich bod yn derbyn y telerau ac amodau wedi’u haddasu.

2. Mae defnydd o’r wefan hon at eich defnydd personol ac anfasnachol eich hun. Ni chaniateir copïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, lawrlwytho, rhannu, darlledu na throsglwyddo deunydd mewn unrhyw ffordd ar wahân i’ch defnydd personol ac anfasnachol eich hun gartref. Mae angen caniatâd ysgrifenedig gennym ni o flaen llaw ar gyfer unrhyw ddefnydd arall.

3. Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r wefan at ddibenion cyfreithlon yn unig ac mewn modd nad yw’n torri hawliau unrhyw drydydd parti, nac yn cyfyngu nac atal eu defnydd a mwynhad o’r wefan hon, nac yn achosi annifyrrwch, anghyfleustra na phryder diangen i unrhyw drydydd parti. Mae cyfyngiad neu atal o’r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy’n anghyfreithlon, difenwol neu ddifrïol neu a allai achosi trallod, anghyfleustra, niwsans neu fygythiad, neu aflonyddu ar unrhyw unigolyn, a throsglwyddo cynnwys anweddus, bygythiol neu ymosodol neu amharu ar lif arferol deialog yn y wefan hon.

4. Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill, nad ydym ni’n eu gweithredu o bosibl. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn ac nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd a allai godi o ran defnydd o wefannau o’r fath.

5. Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod yr holl wybodaeth a deunydd ar y wefan hon yn gywir ond nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am gamgymeriadau neu hepgoriadau, ac nid ydym yn gwarantu y bydd defnydd o’r safle yn ddi-dor. Rydym yn darparu’r deunydd a gaiff ei gyhoeddi ar y wefan ar y sail y byddwn yn diarddel pob gwarant o ran deunydd o’r fath, p’un ai yw hynny’n bendant neu’n ymhlyg. Nid ydym ni, ein gweithwyr, ein cyflenwyr a darparwyr gwreiddiol y deunydd, yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol neu ganlyniadol o ran busnes, refeniw, neu elw neu ddifrod arbennig sy’n codi o gyhoeddi’r deunydd ar y wefan hon neu o ddefnyddio’r wefan hon.

6. Rydych chi’n cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol gan gynnwys hawliau hawlfraint a cronfa ddata ar ein gwefan a’i chynnwys yn eiddo i ni, neu wedi’u trwyddedu i ni, a chânt eu defnyddio gennym ni fel arall fel a ganiateir dan gyfraith berthnasol.

7. Mae gennym hawl i olygu, gwrthod rhannu neu ddileu unrhyw ddeunydd a gaiff ei gyflwyno neu ei rannu ar y wefan hon. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw ddeunydd a gaiff ei rannu ar y wefan, ar wahân i ddeunydd a gaiff ei rannu gennym ni, ac nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am y deunydd hwnnw. Mae unrhyw farn, cyngor, datganiadau, cynigion neu wybodaeth arall a gaiff ei fynegi neu ei rannu gan drydydd partïon ar ein gwefan yn eiddo i’r trydydd parti dan sylw. Nid ydym yn cymeradwyo unrhyw ddeunydd o’r fath gan drydydd parti ac nid ydym yn gyfrifol am ei gywirdeb na’i atebolrwydd.

8. Mae’r telerau ac amodau hyn wedi’u llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o’r telerau ac amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth Llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.

9. Os byddwch yn canfod unrhyw beth ar y wefan hon sy’n peri pryder i chi, rhowch wybod i ni.

10. Os nad ydych yn fodlon ag unrhyw ran o’r wefan hon neu ag unrhyw un o’r telerau ac amodau defnydd hyn, dylech beidio â defnyddio’r wefan yn syth.

11. Os bernir bod unrhyw un o’r telerau ac amodau hyn yn anghyfreithlon, annilys neu fel arall yn anorfodadwy, i’r graddau y bydd y telerau neu amodau hynny’n anghyfreithlon, annilys neu anorfodadwy, cânt eu torri a’u dileu o’r cymal hwn a bydd y telerau ac amodau sy’n weddill yn aros, mewn grym a gweithrediaeth lawn a byddant yn dal i fod yn derfynol a gorfodadwy.