Gwneud cais am gartref
Os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer tai cymdeithasol (sydd hefyd yn cael eu galw’n dai cyngor), bydd angen i chi wneud cais i gael eich rhoi ar y Gofrestr Llwybr Mynediad Sengl i Dai (SARTH).
Mae Cofrestr Tai SARTH yn cael ei rhannu gan Atebion Tai Sir Ddinbych, sy’n bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych a’r Cymdeithasau Tai lleol canlynol:
- Clwyd Alyn
- Wales & West
- Grŵp Cynefin
- Cartrefi Conwy
- Cartrefi Cymunedol Gwynedd
- Tai Gogledd Cymru.
Mae hyn yn golygu bod un pwynt cyswllt ar gyfer ymgeiswyr ac un broses ymgeisio i’w chwblhau i gael eu hystyried ar gyfer yr holl dai cymdeithasol sydd ar gael yn Sir Ddinbych.