TPAS Cymru

TAPAS 

Mae TPAS Cymru yn sefydliad sy’n gweithio gyda landlordiaid a thenantiaid yng Nghymru i helpu i lunio gwasanaethau tai. Mae’n cynnig nifer o wahanol gyfleoedd hyfforddi ac ymgysylltu ledled y gogledd ac yn manteisio ar arbenigedd sefydliadau o natur debyg.

Os hoffech chi weld pa ddigwyddiadau sydd ar gael, cliciwch yma.

Beth yw Pwls Tenantiaid?

Ydych chi am wella tai?

Llais tenantiaid yng Nghymru yw Pwls Tenantiaid. Fe’i crëwyd gan TPAS Cymru ac fe’i cefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Eu prif nod yw darganfod beth sydd bwysicaf i denantiaid yng Nghymru. Mae canlyniadau eu harolygon yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru a landlordiaid i greu polisi tai sy'n gweithio i denantiaid, ac sy'n gwneud tai yng Nghymru yn fwy diogel a thecach.

Dewch i gael dweud eich dweud trwy ymuno â'r miloedd o denantiaid sydd eisoes wedi'u cofrestru – cliciwch yma