Anifeiliaid anwes
Weithiau gall anifail anwes yn y cartref fod yn gysur, yn gwmni ac yn rhan o’r teulu. Cyn i unrhyw denant gael anifail anwes, rhaid iddo gael caniatâd ysgrifenedig i gadw neu ofalu am unrhyw anifeiliaid anwes, anifeiliaid eraill, adar neu dda byw yn yr eiddo.
Mae rhai mathau o eiddo yn anaddas ar gyfer cadw anifeiliaid anwes, anifeiliaid eraill, adar neu dda byw. Mater i ni yw a fyddwn yn rhoi caniatâd. Os rhoddwn ganiatâd, yna rhaid i’r anifeiliaid etc beidio ag achosi niwsans, annifyrrwch neu aflonyddwch i unrhyw berson arall. Os byddant, yna gallwn ofyn i chi fynd â nhw o’r eiddo.
I gael rhagor o wybodaeth, holwch y Swyddog Tai neu edrychwch yn eich cytundeb tenantiaeth.