Asbestos

Fel rhan o ymrwymiad Tai Sir Ddinbych i ddarparu tai o'r ansawdd gorau posib, sy'n gynaliadwy, ac yn ddiogel i chi, rydym yn cynnal arolygon Asbestos rheolaidd ar ein heiddo.

Beth yw asbestos?

Mae asbestos yn ddeunydd sy’n bodoli yn naturiol ac roedd yn cael ei ddefnyddio yn helaeth ym maes adeiladu yn y DU hyd at 2000. Roedd yn cael ei ddefnyddio i sawl pwrpas ac roedd yn ddelfrydol ar gyfer diogelu rhag tân ac inswleiddio. Nid yw deunyddiau asbestos yn cael eu defnyddio bellach, gan ei fod yn cael ei ystyried yn anniogel a chaiff ei reoleiddio o dan y gyfraith. Y tri math o Asbestos a ddefnyddir yn gyffredinol yw:

  • Chrysotile  (Asbestos Gwyn)
  • Amosite (Asbestos Brown)
  • Crocidolite (Asbestos Glas)

Beth mae Tai Sir Ddinbych yn ei wneud ynghylch Asbestos?

Rydym yn rheoli rhaglen o arolygon ar draws ein heiddo i gyd, ac mae’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu yn cael ei gadw ar gofrestr asbestos. Mae hyn yn ein helpu ni i benderfynu a ydym am dynnu, trin neu fonitro’r asbestos. Yn y rhan fwyaf o achosion, fe fyddwn yn gadael y deunydd, os yw'n ddiogel i wneud hynny, gan atal unrhyw darfu diangen arnoch chi. Caiff pob achos ei ystyried yn unigol.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’n well gennym fonitro’r asbestos i atal unrhyw darfu neu ddifrod diangen.Fodd bynnag, os oes angen tynnu’r asbestos, byddwn yn gweithredu ar unwaith i fynd i’r afael â’r asbestos mewn dull diogel a phriodol.

Sut y caiff arolwg ei drefnu a beth sy’n digwydd yn ystod arolwg?

Fe hoffem eich sicrhau y bydd yr holl ragofalon o ran diogelwch yn cael eu cymryd pan ymwelir â’ch cartref er mwyn cadw pellter cymdeithasol a’ch cadw'n ddiogel yn ystod pandemig COVID-19.

Bydd ein contractwr sydd wedi ei gymeradwyo, North Star Environmental, yn cysylltu â chi i:

  • Drefnu dyddiad ac amser addas i wneud yr arolwg. Dim ond pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.
  • Roi cyngor i chi ar y mesurau diogelwch sydd mewn grym pan ymwelir â’ch cartref.
  • Roi’r gofynion i chi i sicrhau fod yr arolwg yn cael ei wneud yn ddiogel.

Bydd yr arolygon hyn yn cael eu cynnal ymhob un o’n heiddo i nodi presenoldeb Deunyddiau’n Cynnwys Asbestos (ACM) o fewn eich cartref. Bydd y syrfëwr yn:

  • Cael mynediad i bob ystafell yn eich eiddo yn ddiogel, ac yn cymryd nifer o samplau bach, fel y gallwn ddadansoddi’r deunydd.
  • Bydd hyn yn cynnwys edrych o dan orchuddion llawr, tu mewn i focsys ac unedau’r gegin. Bydd y syrfëwr yn trafod hyn gyda chi cyn dechrau’r gwaith.

Beth yw’r risgiau?

Oherwydd anallu’r corff i ddadelfennu ffibrau asbestos, gall dod i gyswllt ag asbestos achosi nifer o afiechydon, gan gynnwys mathau o gancr resbiradol.

Ydw i mewn perygl?

Mae nifer o bobl yn credu bod Deunyddiau sy’n Cynnwys Asbestos (ACM) yn beryglus, fodd bynnag dim ond os y caiff ei ddifrodi neu os yr amherir arno y byddai’n dod yn risg e.e. os yw wedi’i ddrilio, ei sandio neu ei dorri.

Lle allaf ddod o hyd i asbestos o bosibl yn fy nghartref?

Nid yw’r rhestr isod yn gyflawn, ond mae’r modd y caiff asbestos ei ddefnyddio fel arfer mewn tai yn cael eu disgrifio isod:

  • Tanciau dŵr oer
  • Lagio pibellau
  • Ffelt, gorchuddion a theils to
  • Gorchuddion â gwead (megis Artex)
  • Ffasgia a byrddau soffit
  • Tanciau dŵr toiledau
  • Paneli waliau
  • Byrddau ffiwsys
  • Cwpwrdd boiler/gwresogydd
  • Teils Llawr
  • Cafnau dŵr glaw a phibellau dŵr

Gall asbestos fod yn bresennol hefyd mewn gorchuddion to, pibellau carthion a drysau tân. Yn yr un modd, mae’n werth nodi na fydd yr eitemau uchod i gyd yn cynnwys asbestos.

Sut ydw i’n gwybod os yw rhywbeth yn cynnwys Asbestos?

Mae ffibrau asbestos yn rhy fach i’w gweld a'r unig ffordd i ddweud yn sicr mai darn o asbestos yw’r deunydd yw drwy ei brofi mewn labordy. Er mwyn cadarnhau presenoldeb asbestos, mae’n rhaid cymryd sampl o’r deunydd, bydd hyn yn creu difrod bach i arwyneb y deunydd hwnnw. Bydd y syrfëwr yn llenwi’r twll bach a wnaed ac yn paentio drosto gyda phaent gwyn.

Pan fo’n bosib, bydd unrhyw ddifrod yn cael ei wneud mor fach â phosib, a phan nad yw hyn yn bosib, bydd y syrfëwr yn trafod y mater gyda chi.

Beth all tenantiaid ei wneud?

Peidiwch â chymryd risgiau, os ydych chi’n bwriadu cwblhau unrhyw waith DIY neu os ydych yn pryderu am ddeunyddiau asbestos posib yn eich cartref, cysylltwch â’n desg gymorth cynnal a chadw ar 01824 706000. Gallwn roi cyngor i chi ar y camau nesaf.

Dilynwch y rheolau hyn:

  • PEIDIWCH â cheisio tynnu unrhyw asbestos neu ddeunyddiau yr ydych yn amau eu bod yn cynnwys asbestos, eich hun
  • PEIDIWCH â drilio, sandio neu dorri unrhyw asbestos neu ddeunyddiau yr ydych yn amau eu bod yn cynnwys asbestos
  • PEIDIWCH â cheisio glanhau unrhyw asbestos sydd wedi cael ei ddifrodi neu ddeunyddiau yr ydych yn amau eu bod yn cynnwys asbestos

Peidiwch â mynd i banig – Mae unrhyw asbestos yn annhebygol o fod yn berygl i’ch iechyd, cyn belled nad yw wedi ei ddifrodi ac na amharwyd arno.

I gael rhagor o wybodaeth:

Ffoniwch ni ar 01824 706000 neu ewch i http://www.hse.gov.uk/asbestos.