Mynd ar-lein
Mewn byd sy’n newid, lle mae popeth yn mynd ar-lein, mae’n bwysig bod cyfrifiaduron ar gael ei chi eu defnyddio, eich bod yn teimlo’n hyderus am fynd ar-lein, a’ch bod yn gallu datblygu’ch sgiliau digidol er mwyn cael y fantais fwyaf o gynhyrchion digidol.
Rydyn ni’n gweithio gydag OPUS a sefydliadau eraill i ddysgu sut y gallwn eich helpu i feithrin sgiliau cyfrifiadur, i fynd ar-lein a chael cymorth gennyn ni. Mae cyfrifiaduron ar gael i chi am ddim sydd â chysylltiad â’r rhyngrwyd a Wi-Fi yn yr holl lyfrgelloedd yn Sir Ddinbych. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i.
I gael rhagor o wybodaeth am gymorth digidol a mynd ar-lein, cysylltwch â’r Swyddog Tai.
Beth am ein dilyn ni ar Twitter neu Instagram a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgareddau?