Rhent a Ffioedd

Adolygiad Rhent Tai Sir Ddinbych 2024-25

Fis Ebrill eleni (2024) bydd eich rhent yn cynyddu 6.7%. Dylech fod wedi derbyn llythyr ar ddiwedd mis Ionawr gyda’r holl wybodaeth. Os nad ydych wedi ei dderbyn, cysylltwch i roi gwybod i ni.

Meddyliem y byddai’n ddefnyddiol rhannu rhai cwestiynau cyffredin a gwybodaeth ynglŷn â sut ydym yn cyfrifo eich rhent, yr hyn mae eich rhent yn talu amdano, beth yw ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol, lle i gael cefnogaeth a gwybodaeth arall.

Os ydych yn ei chael yn anodd talu eich rhent, yr ydym yma i gynorthwyo – cysylltwch â ni ar 01824 706000 neu siaradwch â’ch swyddog tai.

 

1 - O ble ddaw’r gyllideb ar gyfer Tai Sir Ddinbych?

Yr ydym yn cael ein hariannu gan y canlynol:

  • Rhent gan denantiaid sy’n cael ei dalu i’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r cyfrif hwn yn sicrhau ei fod yn cael ei wario ar reoli, cynnal a chadw, a chynyddu ein stoc o dai a thir yn unig. Mae’n rhaid i’r gweithgareddau hyn ategu Cynllun Busnes ein Cyfrif Refeniw Tai.
  • Llywodraeth Cymru i gefnogi a chynnal a chadw cartrefi ein tenantiaid. Mae hyn yn cynnwys ein Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni.

Nid ydym wedi’n hariannu gan Dreth y Cyngor, ac nid ydym yn derbyn cymhorthdal gan unrhyw wasanaethau eraill yn y Cyngor.

Mae'r canlynol yn egluro dadansoddiad ein Cyllideb Refeniw Tai 2024/2025:

Mathau o Gwariant

Cyllideb Arian Parod £’000

Cyfartaledd yn Wythnosol yr Eiddo

Arolygu a rheoli – Rheoli eiddo, gan gynnwys dyraniadau, casglu rhenti a phob gwasanaeth cefnogi (er enghraifft gwasanaethau cyllid, personél, a chyfreithiol).

£3,937

£22.95

Cynnal a Chadw – Gwaith wedi’i raglennu (er enghraifft, cynnal a chadw offer nwy) a
phob atgyweirio o ddydd i ddydd.

£6,841

£39.88

Cyfanswm - Rheoli a Chynnal a Chadw

£10,778

£62.83

Tailadau Benthyca – Ad-daliadau prifsymiau a llogau ar fenthyciadau ar gyfer cyllido gwelliannau a gwaith cyfalaf mewn blynyddoedd blaenorol.

£7,745

45.15

Darpariaeth ar gyfer Dyledion Drwg – er enghraifft, ôl-ddyledion rhent posibl.

£158

£0.92

Cyfanswm Gwariant

£18,681

£108.90

 

Mathau o incwm

 Cyllideb Arian Parod £’000

Cyfartaledd yn Wythnosol yr Eiddo

Rhent (net o leoedd gwag) – Incwm o eiddo danddaliadaeth yn ystod y flwyddyn.

£19,030

£110.93

Taliadau Gwasanaeth

£389

£2.27

Incwm Arall – Garejys yn cael eu gosod i denantiaeth, yn bennaf.

£351

£2.05

Cyfanswm Incwm:

£19,770

£115.24

 

Manylion

Cyllideb Arian Parod £’000

Cyfartaledd yn Wythnosol yr Eiddo

Gweddill / Diffyg (-) am y Flwyddyn

£1,089

£6.34

LLAI - Gwariant Cyfalaf o’r Cyfrif Refeniw.

£1,150

£6.70

Balans ar ddechrau’r flwyddyn

£1,349

£7.86

Balans ar ddiwedd y flwyddyn

£1,288

£7.51

 

2 - Faint fydd y cynnydd yn fy rhent a phryd y daw i rym? 

Bydd eich rhent yn cynyddu 6.7% o 1 Ebrill 2024.  Mae’r llythyr a gawsoch ddiwedd mis Ionawr 2024 yn egluro’r swm newydd y byddwch yn ei dalu o’r dyddiad hwn.

Isod mae enghreifftiau o’r rhenti tebygol y bydd disgwyl i chi eu talu, gan eithrio tâl gwasanaeth. Efallai y bydd Tâl Gwasanaeth ychwanegol yn cael ei ychwanegu at y ffigurau rhent sylfaenol isod, a gynhwyswyd yn eich llythyr.

  • Teulu mewn tŷ Cyngor 3 ystafell wely

Gyda chynnydd o 6.7%, y rhent wythnosol ar gyfer teulu mewn tŷ Cyngor 3 ystafell wely yn Sir Ddinbych fydd £123.97p, o’i gymharu â £105.13p yn 2023.

Mae hyn £4.55p yr wythnos yn is na’r Model Rhent Byw.

  • Teulu mewn tŷ Cyngor 2 ystafell wely

Gyda chynnydd o 6.7%, y rhent wythnosol ar gyfer teulu mewn tŷ Cyngor 2 ystafell wely yn Sir Ddinbych fydd £112.70p, o’i gymharu â £95.57p yn 2023.

Mae hyn £7.26p yr wythnos yn is na’r Model Rhent Byw.

  • Person sengl mewn fflat Cyngor 1 ystafell wely

Gyda chynnydd o 6.7%, y rhent wythnosol ar gyfer person sengl mewn fflat Cyngor 1 ystafell wely yn Sir Ddinbych fydd £91.77p, o’i gymharu â £86.01p yn 2023.

Mae hyn £2.48p yr wythnos yn is na’r Model Rhent Byw.

  • Person sengl mewn byngalo’r Cyngor gydag 1 ystafell wely

Gyda chynnydd o 6.7%, y rhent wythnosol ar gyfer person sengl mewn byngalo Cyngor 1 ystafell wely yn Sir Ddinbych fydd £101.44p, o’i gymharu â £95.0p7 yn 2023.

Mae hyn £1.38p yr wythnos yn is na’r Model Rhent Byw.

Mae enghreifftiau eraill o renti targed sylfaenol wythnosol yn cynnwys:

  • Fflat un ystafell yn £81.57p o’i gymharu â £76.45p yn 2023.
  • Fflat unllawr/deulawr â 2 ystafell wely yn £107.97p o’i gymharu â £95.57p yn 2023.
  • Fflat unllawr/deulawr â 3 ystafell welyyn £112.17p o’i gymharu â £105.13p yn 2023.
  • Tŷ/byngalo ag 1 ystafell wely yn £101.44p o’i gymharu â £95.07p yn 2023.
  • Tŷ/byngalo ag 4 ystafell wely yn £135.25p o’i gymharu â £126.76p yn 2023.
  • Tŷ/byngalo ag 5 ystafell wely yn £146.51p o’i gymharu â £137.31p yn 2023.
  • Tŷ/byngalo ag 6 ystafell wely yn £156.76p.
  • Tŷ/byngalo ag 7 ystafell wely yn £166.17p.

 

3 - Pam mae fy rhent yn cynyddu? 

Yr ydym yn ystyried cynyddu rhent yn ofalus iawn cyn penderfynu gwneud hynny. Er ein bod yn gweithio’n galed i ganfod ffyrdd newydd o ddarparu gwerth am arian, yr ydym hefyd yn ystyried fforddiadwyedd ein rhenti, faint yw’r cynnydd yn ein costau, a faint o fuddsoddiad sydd ei angen yng nghartrefi ein tenantiaid.

Mae’r holl incwm yr ydym yn ei dderbyn yn cael ei wario ar ein cartrefi a’n gwasanaethau i barhau:

  • i wella cartrefi ein tenantiaid,
  • i adeiladu cartrefi Cyngor newydd, 
  • i fuddsoddi i sicrhau bod cartrefi ein tenantiaid yn fwy cynaliadwy ac yn rhatach i’w rhedeg yn yr hirdymor, a
  • gweithio tuag at Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2030, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cydbwyso ein cyfrifon.

Yr ydym wedi wynebu cynnydd mewn costau cynnal a chadw ac atgyweirio cartrefi a darparu gwasanaethau o ansawdd. Os nad ydym yn cynyddu’r rhent, yna ni fydd modd i ni barhau i fuddsoddi yn ein cartrefi ar gyfer ein tenantiaid ac ni fyddem yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru 2023.

 

4 - Sut ydych chi'n gwirio bod ein rhenti'n fforddiadwy wrth osod y cynnydd rhent? 

Yr ydym yn defnyddio model fforddiadwyedd Rhent Byw gan Sefydliad Joseph Rowntree, sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol, ac sy’n nodi bod rhent yn fforddiadwy os yw’n cynrychioli dim mwy na 28% o incwm net aelwyd. Mae'r model hwn yn gweithio i'r 30% o denantiaid sy'n talu eu rhent llawn. 

Mae’n defnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf am incwm a enillir yn Sir Ddinbych. Hyd yn oed gyda chynnydd o 6.7% mewn rhent, bydd y rhent wythnosol ar gyfer aelwydydd gydag incwm a enillir yn is na’r trothwy o 28% fel cyfran o’r incwm isaf ar gyfartaledd.

Mae dros 70% o’n haelwydydd yn derbyn rhywfaint o gefnogaeth gyda’u rhent, naill ai drwy Fudd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol. Bydd unrhyw gynnydd mewn rhent ar gyfer y rhain yn cael ei ddiwallu gan eu budd-daliadau (gan dybio nad yw eu hamgylchiadau’n newid).

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut ydym yn cyfrifo’r cynnydd mewn rhent, sut ydym yn gwario ein cyllideb a fforddiadwyedd ein rhent, ac ati, ewch i wefan Cyngor Sir Ddinbych i weld ein hadroddiad diweddar ar Gyllidebau Cyfalaf a Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/25 (Eitem 6).

 

5 - Pwy wnaeth y penderfyniad am y cynnydd mewn rhent? 

Er mwyn bod yn dryloyw a chynhwysol, yr ydym yn sicrhau ein bod yn cyflwyno unrhyw wybodaeth am gynnydd mewn rhent i’w ystyried gan Ffederasiwn Tenantiaid a Phreswylwyr Sir Ddinbych. Mae’r grŵp yn uno’r holl gymdeithasau tenantiaid a phreswylwyr ledled y sir.

Yna yr ydym yn cyflwyno adroddiad i Gabinet a phanel Craffu’r Cyngor. Ar ôl ei gymeradwyo, mae modd i ni roi gwybod i’r tenantiaid. Mae’r broses yn cymryd oddeutu 2-3 mis. 

 

6 - Yr wyf yn talu tâl gwasanaeth; a fydd hyn yn cynyddu hefyd? 

Mae'r rhan fwyaf o daliadau gwasanaeth wedi cynyddu eleni oherwydd cost gynyddol cyflenwadau trydan a nwy, yn ogystal â chostau cynyddol llafur a deunyddiau. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth yw tâl gwasanaeth, ewch i dudalen gwe Tâl Gwasanaeth, yma.

 

7 - Beth mae’r rhent yn talu amdano?

Mae eich rhent yn talu am y canlynol, ond nid yw’r rhestr yn gynhwysfawr:

  • Staff tai gan gynnwys cyllid, cyfreithiol, personél, swyddogion tai, staff cefnogi ac ati.
  • Ein staff atgyweiriadau a chynnal a chadw a’r rhaglen waith sy’n cynnwys atgyfeiriadau o ddydd i ddydd, cynnal a chadw nwy, gwelliannau tai ac ati. 
  • Ad-dalu benthyciadau a gymerwyd i dalu am welliannau a gwaith cyfalaf. 

Am hyn i gyd, y gost wythnosol ar gyfartaledd, fesul cartref yw £108.90.

 

8 - Beth sydd ddim yn cael ei gynnwys yn fy rhent? 

Yn ogystal â'ch rhent efallai y bydd rhaid i chi dalu Tâl Gwasanaeth hefyd. Gallai hyn gynnwys y costau y mae'n rhaid i ni eu talu am gynnal a chadw tiroedd, glanhau cymunedol, diogelwch tân ac ati.  Dangosir y taliadau hyn yn eich llythyr cysylltiedig. Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon i ymweld â'n tudalen we tâl gwasanaeth.  

 

9 - Beth y dylwn ei wneud os wyf yn cael trafferthion talu’r rhent? 

Yr ydym yma i gynorthwyo, gwrando a darparu cefnogaeth bob amser. Os ydych chi’n wynebu trafferthion o ran talu eich rhent, cysylltwch â ni ar 01824 706000, neu gofynnwch am sgwrs gyda’ch swyddog tai. Gallwn eich cyfeirio at ein partneriaid i gael rhagor o gyngor a chefnogaeth.

 

10 - Pa gyngor a chefnogaeth arall sydd ar gael? 

Gall Tai Sir Ddinbych gynorthwyo a rhoi cyngor ar y canlynol:

  • Cymorth digidol a defnyddio’r rhyngrwyd.
  • Cefnogaeth i gyllidebu a rheoli eich arian.
  • Gwneud cais am ostyngiad Treth y Cyngor.
  • Rheoli ôl-ddyledion rhent a rheoli eich tenantiaeth.
  • Gwybodaeth am sefydliadau sy’n gallu darparu offer TG rhad i chi eu defnyddio yn eich cartref.
  • Rheoli dyledion.
  • Gwneud cais am brydau ysgol am ddim.
  • Eich rhoi mewn cysylltiad â Sir Ddinbych yn Gweithio.
  • A llawer mwy.

Hefyd, mewn partneriaeth â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, gallwn roi mynediad at wasanaeth cyngor hawliau lles, ynni a dyledion annibynnol ac yn rhad ac am ddim i bob tenant, enw’r gwasanaeth yw ‘Key to Advice’.

Mewn rhai amgylchiadau, gyda’ch caniatâd, efallai y gallwn eich atgyfeirio at ddarparwyr eraill i gael cefnogaeth.

Am fwy o wybodaeth am unrhyw beth uchod, cysylltwch â ni ar 01824 706000, neu anfonwch e-bost i tai@sirddinbych.gov.uk.

 

11 - Beth sydd angen i mi ei wneud nesaf?

  • Os ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth, oherwydd bydd eich taliad newydd yn cael ei ddiweddaru a’i gymryd o’ch cyfrif yn ôl yr arfer, yn fisol am y 12 mis nesaf.
  • Os ydych yn talu drwy Archeb Sefydlog, bydd rhaid i chi ofyn i’ch banc newid hyn i chi. Os ydych yn bancio ar-lein, gellwch newid hyn. Mae angen i chi addasu’r swm yr ydych yn ei anfon i ni.
  • Os ydych yn derbyn budd-daliadau megis Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai, darllenwch yr adran ‘Yr wyf yn hawlio Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai. Beth sydd angen i mi ei wneud?’, isod.

 

12 - Yr wyf yn hawlio Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai. Beth sydd angen i mi ei wneud?

  • Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol
    Mae’n bwysig eich bod yn diweddaru eich cyfrif gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i nodi’r taliad rhent newydd o 1 Ebrill 2024. Bydd rhaid i chi wneud hyn o fewn 14 diwrnod o’r amser pan fydd eich rhent yn newid. Mae’r dyddiad hwn ar y llythyr a gawsoch ym mis Ionawr ynglŷn â chynyddu’r rhent. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau wedyn yn addasu eich taliadau.
  • Os ydych yn hawlio Budd-dal Tai
    Byddwn yn hysbysu tîm Budd-dal Tai Cyngor Sir Ddinbych am eich rhent newydd. Bydd y tîm yn rhoi gwybod i chi faint fydd rhaid i chi dalu.

 

13 - Pam mae fy rhent yn uwch na rhent fy nghymdogion? 

Gall gwahaniaethau ddigwydd am sawl rheswm, gan gynnwys bod gan eich cymydog wahanol:

  • Landlord. 
  • Maint yr eiddo.
  • Gwasanaeth yn cael ei ddarparu.
  • Dyddiad cychwyn eu tenantiaeth, ac yn y blaen.

Ni allwn drafod taliadau rhent a thenantiaethau unigol gydag unrhyw un arall ar wahân i ddeiliad y contract.

 

14 - Sut allaf gael cyfriflen rent gyfredol? 

Os hoffech gael cyfriflen rent gyfredol, cysylltwch â ni drwy un o’r ffyrdd isod:

 

15 - Beth am renti garejis? A ydyn nhw’n cynyddu hefyd? 

Ydynt, o 1 Ebrill 2024 dyma fydd rhenti ein garejis:

  • Ar gyfer ein tenantiaid bydd yn £8.82 yr wythnos.
  • Ar gyfer tenantiaid tai nad ydynt yn Sir Ddinbych, bydd yn £10.58 yr wythnos.

 

16 - Beth ydych chi’n buddsoddi ynddo ar gyfer dyfodol eich tenantiaid, eu cartrefi a’r cymunedau? 

Dros y 2-5 mlynedd nesaf, yn ogystal â’r hyn a nodwyd eisoes, byddwn yn canolbwyntio ar fuddsoddi mewn:

  • Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi ein tenantiaid, gan gynghori ar sut i leihau’r defnydd o ynni.
  • Darparu cyngor a chefnogaeth ar gyfer amgylchiadau costau byw a chyfeirio tenantiaid i le i fynd i dderbyn rhagor o gefnogaeth a chyngor.
  • Gweithio tuag at Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru 2023. Am fwy o wybodaeth am hyn, gweler tudalen 5.
  • Adeiladu tai Cyngor newydd.
  • Cefnogi tenantiaid a chymunedau i fod yn fwy gwydn. 

Bydd Arolwg Tenantiaid a Phreswylwyr 2023 hefyd yn darparu mwy o wybodaeth ac yn llywio’r hyn fyddwn yn buddsoddi ynddo ar gyfer y dyfodol.

 

17 - Pa heriau ydych yn eu hwynebu fel landlord? 

Y mae nifer o heriau yr ydym yn eu hwynebu fel landlordiaid, sy’n cynnwys:

  • Cynnydd mewn costau sy’n gysylltiedig â’r sector adeiladau ac adeiladu.
  • Gwella cartrefi er mwyn iddynt fod yn fwy effeithlon o ran ynni.
  • Gwella’r ôl-groniad yn ein rhaglen welliannau yn dilyn y pandemig.
  • Rheoli rhenti sydd heb eu talu ac ôl-ddyledion rhent, a chefnogi tenantiaid drwy hyn.
  • Ad-dalu benthyciadau.
  • Gweithredu’r safonau uwch ar gyfer Safon Ansawdd Tai Cymru 2023.

 

18 - Beth yw Safon Ansawdd Tai Cymru 2023? 

Mae Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 yn canolbwyntio ar Wres Fforddiadwy. Targed Llwybr Ynni EPC C 75, yw ein pwysau mwyaf a drytaf (gweler isod). I ddiwallu’r targed erbyn 31/03/2030, byddwn angen £3.8M yn ychwanegol fesul blwyddyn.

Am fwy o wybodaeth am yr hyn mae Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 yn ei olygu i chi, cliciwch ar y ddolen hon i wefan Llywodraeth Cymru.

 

19 - Pam mae dau logo ar y gwaith papur? 

Yn 2017, cyflwynwyd hunaniaeth brand newydd gennym o’r enw Tai Sir Ddinbych, yn rhan o Gyngor Sir Ddinbych. Mae hyn oherwydd ein bod yn wasanaeth llwyddiannus ac yn cymharu’n ffafriol ag eraill ym maes tai cymdeithasol. Yr oeddem yn teimlo ei bod yn bwysig ar gyfer ein hunaniaeth i adlewyrchu hyn a chaniatáu i denantiaid a staff fod yn rhan o rywbeth y maent yn falch ohono.

Byddwch bob amser yn gweld y ddau logo gyda’i gilydd, felly dyma egluro pam i chi.

  • Logo Tai Sir Ddinbych:
    Mae’r logo hwn ar gyfer rhan tai cymdeithasol y Cyngor (tai Cyngor), ac mae’n dangos y berthynas gyda ni, eich landlord, yn glir. Fe’i crëwyd i’ch cynorthwyo i wybod am ba wasanaethau a gwelliannau mae eich rhent yn talu. Mae hyn yn cynnwys gwaith atgyweirio a chynnal a chadw, gwaith amgylcheddol, swyddogion tai, swyddogion cefnogi, ac ati.
  • Logo Cyngor Sir Ddinbych
    Mae’r rhain yn dangos gwasanaethau’r Cyngor y gellwch gael mynediad atynt, fel preswylydd yn Sir Ddinbych, y mae Treth y Cyngor yn talu amdanynt. E.e. casgliadau biniau, llyfrgelloedd, priffyrdd, ac ati.

 

Am fwy o wybodaeth: 

Os hoffech fwy o wybodaeth ynglŷn â rhenti neu daliadau, mae croeso i chi gysylltu drwy un o’r ffyrdd isod: