Ein perfformiad

Rydym ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn codi ein safonau drwy’r amser i’r lefel uchaf posibl ac rydym am barhau i weithio gyda’n tenantiaid i gyflawni hyn. 

Arolwg o Denantiaid a Phreswylwyr 

Bob yn ail flwyddyn, gofynnwn i'n tenantiaid gymryd rhan yn ein Harolwg o Denantiaid a Phreswylwyr. Mae canlyniadau arolwg 2020/21 yn destun dathlu!

Yn gyntaf, hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ein harolwg diweddar. Cawsom dros 381 (12%) ymateb, 262 (69%) ohonynt ar-lein, sy’n newyddion gwych!

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf bu newidiadau arwyddocaol i Dai Sir Ddinbych, ein tenantiaid a’n cymunedau. Mae arnom eisiau parhau i godi ein safonau i’r lefel uchaf posib ac mae angen i ni weithio gyda chi er mwyn cyflawni hynny.

Dangosodd yr arolwg fod ein tenantiaid yn fodlon:

  • 77% ag ansawdd cyffredinol eu cartref.
  • 79% ein bod yn darparu cartref, sy’n ddiogel
  • 76% ei fod yn hawdd delio â ni
  • 67% ein bod yn gwrando ar eu safbwyntiau ac yn gweithredu arnynt
  • 79% gyda’u cymdogaeth fel lle i fyw
  • 79% bod eu rhent yn cynnig gwerth am arian
  • 60% bod eu tâl gwasanaeth yn cynnig gwerth am arian.
  • 71% gyda’r gwasanaeth trwsio a chynnal
  • 79% gyda’r gwasanaeth cyffredinol a ddarperir 

Mae’r 3 prif bennawd o’r arolwg yn cynnwys:

  • Eich cymuned leol yw eich prif flaenoriaeth
  • Mae cael cymdogion da yn bwysig i chi
  • Mae gennych fwy o ymwybyddiaeth pan nad yw pobl yn ymddwyn yn gyfrifol

Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran, gan fod eich barn a’ch safbwyntiau wir o bwys.

Beth nesaf? 

Ar sail y canlyniadau o Arolwg o Denantiaid a Phreswylwyr 2021, byddwn yn canolbwyntio ar: 

  • Ddatblygu ein cynllun datblygu cymunedol, trwy siarad gyda thenantiaid ynglŷn â sut gallwn weithredu ar yr adborth.
  • Siarad gyda chi am sut y gallwch siapio ein gwasanaethau.
  • Edrych ar fwy o ffyrdd i weithio gyda chymunedau.
  • Gwella ein cymunedau digidol trwy ddefnyddio e-bost a negeseuon testun
  • Er mwyn bod yn gyson â meincnodi’r sector dai awdurdodau lleol yng Nghymru, ac i barhau i gael eich cyfraniad o ran siapio ein gwasanaethau, byddwn yn anfon ein harolwg o denantiaid a phreswylwyr eto yr hydref hwn i chi ei gwblhau. Gobeithiwn gael ymateb hyd yn oed yn well na’r tro hwn.