Chi a’ch Arian

Gyda’r newidiadau diweddar yn y ffordd o dalu budd-daliadau, y cynnydd ym miliau’r cartref a newidiadau mewn amgylchiadau personol, rydym ar gael i’ch helpu.  Gallwn roi cyngor a chymorth i chi ar y ffordd i reoli’ch arian.

Beth wnawn ni i chi:

  • Byddwn yn rhoi rhybudd o 4 wythnos o leiaf i chi drwy lythyr os bydd unrhyw newidiadau yn eich rhent a/neu unrhyw daliadau eraill, yn cynnwys y tâl gwasanaeth.
  • Gallwch ofyn am y datganiad rhent diweddaraf, ar ben y 4 datganiad y byddwn yn eu hanfon atoch bob blwyddyn.
  • Os byddwn yn casglu unrhyw daliadau, yn ychwanegol i’r tâl gwasanaeth, h.y. nwy, trydan, cymorth tenantiaeth, carthffosiaeth, tanc septig, consesiynau etc yn rhan o’ch cyfanswm rhent, byddwn yn eu talu i’r sefydliadau priodol.

Beth fydd angen i chi ei wneud:

  • Talu’ch rhent ac unrhyw daliadau gwasanaeth yn brydlon.
  • Os ydych yn cael help gan wasanaethau cymorth, rydych yn cytuno i dalu amdanynt yn uniongyrchol.
  • Os na fyddwch yn talu’ch rhent neu daliadau gwasanaeth, byddwn yn trafod cynllun talu ac opsiynau eraill â chi.
  • Os oes gennych gyd-denantiaeth, chi sy’n gyfrifol am dalu’r holl rent a thaliadau eraill, yn cynnwys ôl-ddyledion.