Gwelliannau Amgylcheddol

Mae mannau agored o ansawdd da yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant pobl. Rydym am ddarparu mannau agored ar eich ystadau y gallwch eu mwynhau gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.

Byddwn yn gwneud gwahanol fathau o welliannau amgylcheddol drwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys:

  • Gwella ystadau, lle byddwn yn edrych ar yr ardal gyfan, yn cynnwys llwybrau mynediad a mannau gwyrdd
  • Mannau tyfu cymunedol a rhandiroedd
  • Gerddi cymunedol
  • Gerddi cymunol o gwmpas fflatiau

Nod ein holl brosiectau yw gwella amgylcheddau lleol pobl, hyrwyddo bywyd gwyllt a bioamrywiaeth, a pharatoi at y newid yn yr hinsawdd.

Ar eich cyfer chi y mae’r holl welliannau’n digwydd; wedi’r cwbl, dyma lle rydych chi’n byw!  Hoffen ni weithio gyda chi i ddatblygu’r mannau gwyrdd yn eich ardal a chynnig cyfleoedd i chi wirfoddoli ar brosiectau sy’n cael eu rhedeg ar y cyd â’r Gwasanaeth Cefn Gwlad. Os ydych chi’n meddwl bod lle ar eich ystad y byddai’n werth ei wella, cysylltwch â ni.

Dyma rai o’n prosiectau diweddaraf:

Natur er Budd Iechyd

Os hoffech chi wella’ch iechyd a llesiant drwy fynd i’r amgylchedd naturiol lleol, dewch i gymryd rhan yn un o’n prosiectau Natur er Budd Iechyd, sy’n cael eu darparu mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych.

Mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle i gwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd, wrth gydweithio i warchod a gwella’r amgylchedd naturiol lleol. Cynhelir y prosiect yn:

  • The Marsh a Chanolfan Phoenix, Rhydwyn Drive,  y Rhyl
  • Morfa Gateway, Prestatyn
  • Canolfan Gymunedol Pengwern, Llangollen
  • Canolfan Ni, Corwen

Dyma rai o’r prosiectau rydym wedi gweithio arnynt ers dechrau’r prosiect:

  • Sgiliau coetir, crefftau goroesi yn y gwyllt a brecwast yn y coed
  • Cyfleoedd i wneud gwaith cadwraeth a garddio gwirfoddol
  • Teithiau cerdded ymwybyddiaeth ofalgar, cerdded Llychlynnaidd a theithiau iechyd
  • Celf a Chrefft amgylcheddol, yn cynnwys plethu gwiail, gwneud ffelt a blychau adar, ystlumod a phathewod
  • Sesiynau rhandiroedd a thyfu bwyd
  • Teithiau i erddi lleol a safleoedd AHNE
  • Gweithgareddau dros y gwyliau ar gyfer pobl iau a theuluoedd

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am weithgareddau yn eich ardal chi, gwelwch ein tudalen digwyddiadau neu dilynwch ni. Os oes gennych chi syniad ar gyfer prosiect sy’n defnyddio’r amgylchedd naturiol yn eich cymuned, mae pob croeso i chi gysylltu â thîm Natur er Budd Iechyd ar 01824 70600

Llangollen a Chorwen

Prestatyn a’r Rhyl

Gwella Ystad Llanelwy

Rydyn ni’n falch o’ch hysbysu bod ein prosiect gwella amgylcheddol mawr gwerth £1.2 miliwn wedi’i gwblhau.  Roedd y prosiect hwn yn rhan o’n hymrwymiad i fuddsoddi yn ein cymunedau a darparu lleoedd llesol i fyw, gan wella cymdogaethau, seilwaith a’r gymuned ehangach.  Mae’r gwaith o ail-wneud priffyrdd a llwybrau wedi’i gwblhau ac wedi darparu gwell cyfleusterau parcio a mesurau gostegu traffig mewn ardaloedd.

Mae cam nesaf y prosiect, sydd i’w gwblhau yn hydref 2019, yn cynnwys tirweddu a phlannu coed a llwyni: bydd hyn yn helpu i gyflawni blaenoriaeth gorfforaethol y Cyngor ar yr amgylchedd. Bydd y tirweddu amgylcheddol yn darparu bioamrywiaeth, yn creu amgylchedd mwy deniadol a diogel ac yn gwella llesiant y gymuned.

Buddsoddwyd yn y prosiect gan Tai Sir Ddinbych, a chafwyd cymorth gan Gyngor Sir Ddinbych yn gyffredinol, gan Lywodraeth Cymru a chan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae nifer o’n rhaglenni buddsoddi yn cael cymorth drwy Lwfans Atgyweiriadau Mawr Llywodraeth Cymru sy’n werth £2.5 miliwn y flwyddyn.

Porth y Waen, Aberchwiler – gwnaethon ni welliannau o flaen yr eiddo yn yr ardal i wella’r mannau gwyrdd a darparu gwell cyfleusterau parcio i breswylwyr.

Caradoc Road, Prestatyn – cynllun ar gyfer gwella adeiladwaith allanol y fflatiau a darparu mannau awyr agored newydd a gwell i breswylwyr.

Parc Bruton, y Rhyl – darparwyd coridor gwyrdd drwy’r ystad i gysylltu’r man chwarae â’r coetir cymunedol yng nghefn yr ystad. Roedd y gwaith yn cynnwys yr ardal o gwmpas y llyn sy’n gynefin i’r Fadfall Ddŵr Gribog.

Llys y Felin, Llanelwy – gofynnodd preswylwyr i ni eu helpu i ddatblygu’r ardd gymunedol yng nghefn y ganolfan gymunedol i’w defnyddio i gynnal digwyddiadau.