Mathau o denantiaeth
Mae nifer o fathau o denantiaeth ar gael ac mae pob un yn rhoi hawliau a chyfrifoldebau gwahanol i chi. Mae’r rhain yn cynnwys:
Tenantiaeth Ragarweiniol:
Mae pob tenant newydd yn cael tenantiaeth ‘ragarweiniol’ sy’n para am 12 mis, ac sy’n debyg i denantiaeth brawf. Y prif bwyntiau am denantiaeth o’r math hwn yw:
- Mae’n rhoi’r rhan fwyaf o’r hawliau sydd mewn tenantiaeth ddiogel, ond gall fod yn haws eich troi allan.
- Ar yr amod na fyddwch chi’n torri’ch cytundeb tenantiaeth yn ystod y 12 mis cyntaf, byddwch chi’n dod yn denant diogel yn awtomatig, oni bai ein bod ni wedi cychwyn achos i ddod â’ch tenantiaeth i ben.
- Rydyn ni’n cadw’r hawl i estyn y cyfnod prawf mewn rhai amgylchiadau.
Mae terfynau ar beth allwch chi ei wneud tra byddwch chi’n denant rhagarweiniol, er enghraifft:
- Gwneud gwelliannau i’ch cartref
- Ffeirio’ch cartref â thenant arall
Yn ystod cyfnod y Denantiaeth Ragarweiniol, os byddwch chi’n torri amodau yn eich cytundeb tenantiaeth, yna gallwn ni ddod â’r denantiaeth i ben drwy roi hysbysiad i chi, heb ddarparu rhesymau i lys. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma
Tenantiaeth Ddiogel:
Ar ôl 12 mis cyntaf y cytundeb tenantiaeth ragarweiniol, bydd y rhan fwyaf o’n tenantiaid yn dod yn denant diogel yn awtomatig. Y prif wahaniaethau yw:
- Bydd gennych chi fwy o hawliau cyfreithiol nag mewn tenantiaeth ragarweiniol a gallwch chi wneud y canlynol:
- Cymryd lletywr ond ni fyddwch yn gallu is-osod yr eiddo cyfan
- Ffeirio’ch cartref am eiddo arall neu â thenant cymdeithas dai
- Gwneud cais am drosglwyddo (aseinio) eich tenantiaeth i rywun arall sydd mewn amgylchiadau tebyg
- Gwneud gwelliannau i’ch cartref ar ôl cael caniatâd gennyn ni
- Rhaid i chi barhau i ymddwyn yn gyfrifol a chadw at amodau’ch cytundeb tenantiaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am fathau o denantiaeth, edrychwch ar eich cytundeb tenantiaeth
Tenantiaeth Un Person a Chyd-denantiaeth:
Gall ein tenantiaethau fod yn denantiaeth un person neu’n gyd-denantiaeth â rhywun arall. Byddwn ni’n cynnig cyd-denantiaethau yn ôl ein disgresiwn. Ar ôl cytuno ar denantiaeth, ni fydd yn hawdd i ni ychwanegu na dileu enwau ar eich cais, yn wahanol i Gymdeithasau Tai eraill. Os ydych chi am ychwanegu enw rhywun i’ch tenantiaeth, bydd angen i chi wneud cais i ni. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma
Tenantiaeth Un Person:
Pwy bynnag sydd â’i enw ar y cytundeb tenantiaeth, hwnnw fydd yn llwyr gyfrifol am y cytundeb tenantiaeth â ni.
Cyd-denantiaeth:
Mae hyn yn golygu mai’r un hawliau a chyfrifoldebau fydd gan y ddau ohonoch chi. Fel arfer byddwn ni’n cynnig tenantiaeth o’r math hwn i gyplau sefydledig, ond gallwn ystyried ceisiadau am denantiaeth rhwng aelodau eraill o’r teulu. Er hynny, ni fyddem yn cynnig cyd-denantiaeth i riant a phlentyn fel arfer.