Rheoli’ch tenantiaeth
Rydyn ni ar gael i’ch helpu i reoli’ch tenantiaeth a deall pa mor bwysig yw’ch cytundeb tenantiaeth. Ni sy’n gyfrifol am sicrhau ein bod yn buddsoddi yn eich cartref a’i fod mewn cyflwr da ac yn cadw at Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).
Fel tenant, rydych chi’n gyfrifol am y canlynol:
- talu’ch rhent a thaliadau eraill yn brydlon
- gofalu am eich cartref a’ch gardd
- ymddwyn yn rhesymol fel na fyddwch yn tramgwyddo pobl eraill sy’n byw’n agos i chi
Mae rhagor o wybodaeth yn eich cytundeb tenantiaeth
Os hoffech chi gael cymorth i ddeall sut i reoli’ch tenantiaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.