Adrodd ar rywbeth sydd angen ei drwsio

Gwyddwn pa mor anodd yw hi pan fydd rhywbeth yn torri yn eich cartref. Os yw hyn yn nam gyda’ch trydan, boeler, plymio neu’r to, rydym yma i’ch helpu.  Rydym bob amser yn ceisio atgyweirio unrhyw namau yn eich cartref sy’n gyfrifoldeb i ni, cyn gynted â gallwn ni. 

Ar gyfer argyfyngau nwy:

  • Os allwch chi arogli nwy, neu os oes nwy wedi dianc  diffoddwch y prif gyflenwad a ffoniwch West Wales Utilities ar 0800 111 999

Ar gyfer atgyweiriadau nwy nad ydynt yn rhai brys, ffoniwch Liberty Gas ar 0330 333 8384

Dŵr 

  • Os ydych wedi colli eich cyflenwad dŵr yn gyfan gwbl yn eich cartref, cysylltwch â Dŵr Cymru ar 0800 052 0130.

Atgyweiriadau Brys

Os oes argyfwng yn eich cartref, mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â ni ar unwaith i adrodd am y broblem. 

Gallwch gysylltu â ni 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn.

Gall argyfyngau gynnwys:

  • Colli prif gyflenwad dŵr neu golli trydan yn gyfan gwbl.
  • Byrst yn y plymio neu lifogydd nad ellir ei stopio wrth droi’r dŵr i ffwrdd.
  • Dim gwres neu ddŵr poeth (rhwng 31 Hydref – 31 Mawrth ac os nad oes gwres arall ar gael).
  • Drysau a ffenestri anniogel neu wedi malu.
  • Gollyngiadau nwy.
  • To wedi disgyn.

Rydym bob amser yn blaenoriaethu atgyweiriadau brys oherwydd os gadewir y rhain heb eu gwirio, gallent achosi difrod i’ch cartref, neu’n waeth fyth, peri risg i’ch iechyd a diogelwch. Eir i’r afael ag unrhyw atgyweiriadau brys o fewn 24 awr.

Bydd atgyweiriadau brys megis, ond heb eu cyfyngu, i’r rhain, yn cael eu trin o fewn 5 diwrnod gwaith.

  • Colli gwres yn rhannol
  • Colli golau neu bŵer yn rhannol
  • Gwneud ffens neu giât yn ddiogel
  • Cawod wedi torri

Beth os nad yw’n argyfwng?

Mae nifer o adegau lle bo angen gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio yn eich cartref, ond nid ydym yn ei ystyried yn argyfwng.

Rydym eisiau helpu i atgyweirio’r broblem cyn gynted â phosibl, ac rydym yn ymfalchïo yn ein gwasanaeth cyflym, hawdd a diffwdan.

Gallwch adrodd am y broblem gan ddefnyddio’r ffurflen hon, neu fel arall gallwch gysylltu â ni.

Bydd atgyweirio cyffredinol yn cael eu cynnal o fewn 20 diwrnod.

Gall rai gwaith megis gerddi, llwybrau a ffensys gael eu newid wrth i gynlluniau a rhaglenni gael eu cynllunio, a chânt eu trefnu o fewn 365 diwrnod.