Tâl gwasanaeth

Gellir codi tâl gwasanaeth am un neu ragor o’r canlynol ar ben eich rhent sylfaenol:

  • goleuo a gwresogi mannau cymunol
  • gwella ffitiadau a gosodiadau mewn mannau cymunol
  • cyfleusterau golchi dillad
  • gosod, monitro a gwasanaethu camerâu cylch cyfyng
  • monitro a gwasanaethu systemau mynediad drysau
  • monitro a gwasanaethu offer diogelwch tân mewn mannau cymunol
  • glanhau mannau cymunol a glanhau ffenestri cymunol
  • cynnal y tir ar eich ystad, yn cynnwys mannau chwarae, glaswellt, coed, llwyni, gwelyau blodau, lloriau caled a llwybrau, codi sbwriel
  • dŵr a charthffosydd ar gyfer mannau cymunol
  • tâl rheoli ar gyfer gweinyddu taliadau gwasanaeth

O dan y rheoliadau presennol ar Fudd-dal Tai, mae’r holl daliadau gwasanaeth hyn yn gymwys i’w talu drwy’r Budd-dal Tai. Maen nhw hefyd yn gymwys ar gyfer yr Elfen Costau Tai mewn Credyd Cynhwysol.

Byddwch yn gallu gweld ar eich datganiad rhent faint rydych yn ei dalu at gost y gwasanaethau rydych yn eu cael.  Er enghraifft, byddwch yn gallu gweld faint o’ch tâl wythnosol sy’n mynd at lanhau, trydan neu wresogi mannau cymunol, a faint sy’n mynd at gynnal y tir yn eich gardd gymunol neu ar yr ystad lle rydych chi’n byw.

Nid yw taliadau gan unigolion am ddŵr, gwresogi a charthffosiaeth yn gymwys o dan y Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol.

Fydda i’n gorfod talu taliadau gwasanaeth?

Mae taliadau gwasanaeth yn cael eu codi am gyfleusterau sy’n cael eu rhannu neu gyfleusterau cymunol. Os ydych chi’n cael defnyddio unrhyw un o’r rhain, yna bydd tâl gwasanaeth yn cael ei ychwanegu amdano.

Os ydych chi’n byw mewn eiddo lle nad oes gwasanaethau ychwanegol neu rai sy’n cael eu rhannu, ac os nad ydyn ni’n cynnal unrhyw dir cymunol y tu allan i’ch eiddo neu ar eich ystad, yna ni fyddwch chi’n gorfod talu unrhyw daliadau gwasanaeth.

Nid ydych yn gallu optio allan o dalu taliadau gwasanaeth, nac optio allan o gael y gwasanaethau sy’n cael eu darparu.  Mae costau taliadau gwasanaeth yn cael eu gosod bob blwyddyn.

Sut rydyn ni’n cyfrifo taliadau gwasanaeth?

Byddwn ni’n cyfrifo’ch taliadau gwasanaeth bob blwyddyn drwy edrych ar y costau gwirioneddol am ddarparu’r gwasanaeth i chi yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Byddwn ni’n codi tâl rheoli o 15% hefyd.  Wedyn byddwn yn adennill y tâl y flwyddyn ddilynol. Drwy wneud hyn, dim ond y gost wirioneddol am ddarparu’r gwasanaethau y byddwn yn ei hadennill gan y tenantiaid hynny sy’n eu derbyn. Bydd y gost o ddarparu gwasanaethau mewn bloc o fflatiau, grŵp o adeiladau neu fan cymunol neu ystad yn cael ei rhannu’n gyfartal rhwng yr holl denantiaid sy’n byw yno.