Ymweliadau â Thenantiaid

Ymweliadau â Thenantiaid

Mae arnom eisiau dod i adnabod ein tenantiaid yn well fel y gallwn wella’r hyn rydym yn ei wneud. 

I’n helpu ni, mae arnom angen gwneud yn siŵr bod y wybodaeth ddiweddaraf gennym am bwy yw ein tenantiaid. Gall hyn gynnwys gofyn i chi pwy sy’n byw yn eich cartref, unrhyw wybodaeth y mae arnom ei hangen a allai eich cefnogi yn eich cartref ac yn y gymuned ehangach yn well.  

Un ffordd o’n helpu ni i ddod i’ch adnabod yn well yw drwy drefnu ymweliad â’r tenant.

Beth yw ymweliad â’r tenant?

I’n helpu ni i ddod i’ch adnabod yn well a’ch helpu yn well, efallai y byddwn yn trefnu i ddod i’ch gweld yn eich cartref. 

Yn ystod ymweliad, gallwn wneud yn siŵr eich bod yn cael unrhyw gymorth neu gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, yn ogystal â cheisio atal unrhyw broblemau cyn iddynt ddigwydd. Os byddwn yn cytuno fod arnoch angen ymyrraeth neu gymorth gennym ni, yna byddwn y cytuno ar sut a phryd y gallwn helpu. Os nad oes arnoch angen dim byd, byddwn yn cytuno i’ch gweld chi eto ar ymweliad yn y dyfodol. 

Nid oes ar y mwyafrif o aelwydydd angen dim byd gennym, ond rydym yn dal eisiau cysylltu â chi bob hyn a hyn, fel eich bod yn gwybod ein bod yno. Os byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn ag Ymweliad Tenantiaeth, nid archwiliad na phrawf ydyw.  Dylech ei ystyried fel ymweliad o ran cwrteisi i weld a allwn eich helpu chi a’ch teulu mewn unrhyw ffordd.   

Beth sy’n digwydd i fy nata?

Byddwn yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau ein bod ni, neu unrhyw drydydd parti a allai brosesu data ar ein rhan, yn cydymffurfio ag egwyddorion deddfwriaeth Diogelu Data wrth brosesu data personol. 

I gael mwy o wybodaeth am Ddiogelu Data a’n Hysbysiad Preifatrwydd, ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/preifatrwydd/preifatrwydd.aspx