Newydd symud i’ch cartref ac yn denant newydd
Croeso i Tai Sir Ddinbych.
Rydyn ni’n gobeithio’ch bod chi’n dechrau cael eich traed danoch yn barod yn eich cartref newydd. Gan eich bod yn denant newydd, byddwch yn cael tenantiaeth ragarweiniol a fydd yn para tua 12 mis, tenantiaeth brawf. O fewn yr wythnosau a misoedd cyntaf yn eich cartref newydd, bydd y swyddog tai lleol yn galw heibio i gwrdd â chi, a rhoi ychydig o gyngor a gwybodaeth am ffyrdd i ofalu am eich tenantiaeth a’ch cartref.
Os aiff popeth yn iawn erbyn diwedd y 12 mis cyntaf, bydd nifer o opsiynau ar gael. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn Mathau o denantiaeth
Mae rhagor o wybodaeth am eich tenantiaeth yn y cytundeb tenantiaeth y byddwch chi wedi’i gael ar ôl llofnodi’ch dogfen tenantiaeth, neu darllenwch beth sydd ar ein gwefan.