Parcio
Mae parcio o gwmpas cartrefi mewn rhai ardaloedd yn gallu bod yn anodd iawn ar brydiau, gan achosi pryder a phroblemau yn y gymuned. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru ac Adran Briffyrdd Cyngor Sir Ddinbych i geisio helpu i wneud gwelliannau.
Hoffem eich atgoffa, er gwaethaf anawsterau o ran parcio a phrinder mannau parcio mewn rhai ardaloedd, y dylech barchu’ch gilydd, parcio mewn ffordd ystyriol a pheidio â pharcio mewn ffordd a fyddai’n achosi rhwystr i bobl eraill neu eu cerbydau.
Os hoffech chi drafod unrhyw broblemau parcio, mae croeso i chi gysylltu â ni.