Talu’ch rhent

Mae nifer o ffyrdd i chi dalu’ch rhent a thaliadau eraill, yn cynnwys:

Debyd Uniongyrchol neu Archeb Banc

Os oes gennych chi gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, hon fydd y ffordd hawsaf i dalu.  Bydd eich rhent yn cael ei dalu o’ch cyfrif yn awtomatig bob mis. I drefnu debyd uniongyrchol neu archeb sefydlog, cysylltwch â ni i ofyn am ffurflen awdurdodi debyd uniongyrchol.

Ar-lein

Gallwch dalu drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.

Siop Un Alwad neu Lyfrgelloedd

Byddwch chi wedi cael cerdyn sweipio ar ddechrau’ch tenantiaeth, a gallwch ei ddefnyddio i dalu’r rhent mewn unrhyw un o’n Siopau Un Alwad neu mewn llyfrgell leol. Os defnyddiwch eich cerdyn sweipio, nid oes terfyn ar y swm y gallwch ei dalu.  Os collwch chi’ch cerdyn sweipio, a bod angen cael un yn ei le, galwch ni ar 01824 712965 neu 01824 702963.

Swyddfa Bost

Byddwch chi wedi cael cerdyn sweipio ar ddechrau’ch tenantiaeth, a gallwch ei ddefnyddio yn y Swyddfa Bost leol. Os byddwch yn talu mewn Swyddfa Bost, rhaid i chi dalu ag arian parod a rhaid talu o leiaf £5. Os collwch chi’ch cerdyn sweipio, a bod angen cael un yn ei le, galwch ni ar 01824 712965 neu 01824 702963

Dros y ffôn

Gallwch chi ddefnyddio’ch cerdyn debyd neu gredyd i dalu dros y ffôn.  Pan fyddwch yn ein galw, bydd angen i chi roi’ch rhif cyfeirnod rhent neu rif eich cerdyn sweipio, a byddwn yn gofyn am eich enw a chyfeiriad eich cartref.  Gallwch ein galw ar:

  • y llinell dalu awtomatig 24 0300 456 2499, neu
  • 01824 712963 / 01824 712965 (Dydd Llun-Dydd Iau rhwng 9:00am a 5:00pm, Dydd Gwener rhwng 9:00am a 4:30pm)

Drwy’r post

Gallwch dalu’ch rhent drwy anfon siec neu archeb bost wedi’i gwneud yn daladwy i ‘Cyngor Sir Ddinbych’ i:

Siop Un Alwad y Rhyl
Stryd yr Eglwys
Y Rhyl
LL18 3AA

Cofiwch gynnwys eich rhif cyfeirnod rhent, a’ch enw a’ch cyfeiriad.  Dim ond os gofynnwch chi am dderbynneb y byddwn yn ei hanfon.

Defnyddir y rhent i dalu am y gwasanaethau tai rydym yn eu darparu, ac mae’n bwysig bod eich rhent yn cael ei dalu’n rheolaidd ac yn brydlon. Mewn arolwg diweddar, roedd 89% ohonoch wedi dweud eich bod yn fodlon bod eich rhent yn rhoi gwerth am arian, sy’n newyddion da iawn.