Datblygu cymunedol

Yn rhan o’n hymrwymiad i’n cymunedau, mae gennym dîm o Gydlynwyr Datblygu Cymunedol. Maen nhw’n gweithio gyda chymunedau i ddatblygu prosiectau yn ein cymdogaethau ac i helpu cymunedau i ddod ynghyd a threfnu digwyddiadau a phrosiectau drostynt eu hunain.  

Yn ogystal â hyn, mae gennym gydlynydd cynhwysiant Ariannol a Digidol a fydd yn eich cynorthwyo i gryfhau’ch sefyllfa ariannol a mynd ar-lein.

Byddwn yn cynnal sioeau teithiol a digwyddiadau mewn cymunedau yn aml, felly cadwch olwg ar gyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth.  Mae’r tîm wedi cymryd rhan mewn nifer o brosiectau, yn cynnwys:

  • Buddsoddi yn ein canolfannau cymunedol i’w gwneud yn ganolbwynt bywiog i’r gymuned:
    • Rhydwen Drive, Canolfan Phoenix, y Rhyl
    • Maes Esgob, Dyserth
    • Pengwern, Llangollen
  • Cefnogi a darparu nifer o ddigwyddiadau cymunedol:
    • Diwrnodau hwyl i’r teulu
    • Gwelliannau amgylcheddol Bro Havard
    • Diwrnod codi sbwriel gydag Ysgol Melyd yng Ngalltmelyd
    • Digwyddiadau Calan Gaeaf
  • Gweithio gyda phartneriaid ar nifer o brosiectau o gwmpas y sir:
    • Y Sied, adnodd cymunedol yng Ngalltmelyd
    • Prosiect trafnidiaeth wledig ar gyfer De Sir Ddinbych
    • Prosiect i hybu ymwybyddiaeth o fenthycwyr arian didrwydded
    • Llyn a man chwarae Parc Bruton
    • Prosiect Morfa Gateway, Prestatyn
    • Natur er Budd Iechyd, ledled y sir
    • Dyma rai o’r ceisiadau am grant a gawsom ar gyfer prosiectau:
      • Campfa Wyrdd Llandyrnog: £10,000 gan Arian i Bawb a £1,000 gan ymgyrch ‘Bag am Oes’ Tesco
      • Prosiect Mannau Gwyrdd Llantysilio (Gwneud blychau adar a meinciau gan y gymuned) £1,000 gan ymgyrch ‘Bag am Oes’ Tesco
      • Cafodd Cymuned Pengwern £1,300 gan Gronfa Symiau Gohiriedig Sir Ddinbych.
      • Cafodd Trem y Foel, Rhuthun £4,500 gan Arian i Bawb Cymru tuag at ddosbarthiadau ymarfer cadair freichiau, gweithgareddau cymunedol a dodrefn i’r ganolfan gymunedol

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ddatblygu cymunedol, cysylltwch â ni.