Lleithder ac anwedd

Dyma ein hawgrymiadau i leihau llwydni ac anwedd yn eich cartrefi’r gaeaf hwn!

Beth yw llwydni ac anwedd?

Mae llwydni ac anwedd yn ymddangos yn eich cartref pan mae’r aer yn rhy wlyb. Mae anwedd yn aml yn ymddangos ar ffenestri pan maent yn stemio. Mae hyn yn digwydd pan fydd aer cynnes, gwlyb yn dod i gysylltiad gydag arwyneb oerach. Gall sbotiau llwydni du ddechrau tyfu yn eich cartref pan mae yna ormod o anwedd. Gall dyfu ar waliau, nenfydau a dodrefn. Mae sbotiau du llwydni yn niweidiol i iechyd.

O ble daw anwedd?

Gall lleithder yn eich cartref ddod trwy goginio, cael bath, anadlu, sychu eich dillad tu mewn, a chael cawod. Y newyddion da yw y gallwch leihau’r lleithder yn eich cartref drwy ddilyn yr argymhellion yma!

Awgrym 1: Ceisiwch gadw eich cartref yn gynnes ar dymheredd cyson. Gadewch ddrysau mewnol ar agor er mwyn i aer allu llifo o amgylch eich cartref.

Awgrym 2: Rhowch gaead ar eich sosbenni pan fyddwch chi’n coginio, a pheidiwch â defnyddio mwy o ddŵr nag sydd ei angen. .

Awgrym 3: Defnyddiwch eich ffan echdynnu os oes gennych chi un. Os nad oes gennych chi un, agorwch ffenestr i adael y stêm allan.

Awgrym 4: Os oes gennych dyllau awyr yn eich ffenestri, sicrhewch eu bod ar agor er mwyn cynorthwyo â llif aer.

Awgrym 5: Agorwch eich ffenestri pan fyddwch chi’n coginio, yn cael cawod neu fath. Pan fyddwch chi’n rhedeg bath, rhowch ddŵr oer i mewn yn gyntaf, yna ychwanegwch y dŵr poeth. Mae hyn yn lleihau stêm 90%.

Awgrym 6: Os allwch chi, rhowch eich dillad y tu allan i sychu.

Awgrym 7: Os ydych chi’n sychu eich dillad tu mewn:

  • Peidiwch â rhoi dillad gwlyb ar eich rheiddiaduron.
  • Rhowch nhw yn yr ystafell ymolchi gyda’r gwres ymlaen.
  • Defnyddiwch hors ddillad.
  • Caewch ddrws yr ystafell ymolchi a chadwch y ffenestr yn gil agored neu rhowch y ffan echdynnu ymlaen.

Awgrym 8: Os ydych chi’n defnyddio peiriant sychu dillad, sicrhewch fod gennych fent i’r tu allan, oni bai bod gennych beiriant sychu dillad cyddwyso.

Awgrym 9: Sychwch unrhyw ddŵr sydd ar eich ffenestri a sil ffenestri yn y bore.

Awgrym 10: Peidiwch â rhoi dodrefn na gwelyau yn uniongyrchol yn erbyn wal er mwyn i’r aer allu cylchredeg.

Pethau pwysig i’w gwybod:

Trwy gydweithio gallwn leihau llwydni ac anwedd yn ein cartrefi. Er mwyn helpu gyda hyn, cofiwch:

Ein cyfrifoldebau ni i chi yw

  • Ymateb yn brydlon i adroddiadau o lwydni ac anwedd.
  • Rhoi gwybodaeth a chyngor i chi leihau anwedd yn eich cartref.

Gallwch chi helpu trwy:

  • Ddilyn ein cyngor i leihau anwedd yn eich cartref.
  • Adrodd unrhyw broblemau gyda anwedd yn eich cartref yn brydlon.
  • Er mwyn rhoi gwybod am broblem gallwch:
    • Ffoniwch ni ar 01824 706000
    • E-bostiwch ni tai@sirddinbych.gov.uk
    • Ar-lein www.taisirddinbych.co.uk