Safonau gosod ar gyfer ailosod cartrefi
Pryd bynnag y bydd eiddo’n dod yn wag am fod tenant wedi gadael, byddwn yn manteisio ar y cyfle i sicrhau bod y tŷ yn y cyflwr gorau posibl cyn ei ailosod.
Rydym wedi datblygu ein safonau gosod ein hunain fel y bydd tenantiaid yn gallu mwynhau eu cartref newydd heb fod angen gwario ar waith ailaddurno neu addasu drud. Y meysydd y byddwn yn buddsoddi ynddynt cyn ailosod eiddo yw:
- Golwg allanol – byddwn yn sicrhau bod golwg lân a thaclus ar ein cartrefi a’u bod yn ymddangos yn fodern ac mewn cyflwr da.
- Gerddi – byddwn yn sicrhau bod gerddi mewn cyflwr diogel a’u bod yn hawdd eu cynnal yn y dyfodol.
- Glendid – byddwn yn sicrhau bod ein holl gartrefi wedi’u glanhau at y safon uchaf posibl fel na fydd olion o saim, llwydni, baw, llwch na lleithder. Rhoddir sylw arbennig i’r gegin a’r ystafell ymolchi.
- Addurno mewnol – bydd ein holl gartrefi wedi’u haddurno at safon uchel a’r holl waliau wedi’u stripio a’u peintio ag emylsiwn. Bydd yr holl waith coed wedi’i beintio â phaent sidan. Bydd y gorchuddion llawr presennol, os ydynt yn addas i’w gadael, yn cael eu glanhau.
- Diogelwch – mae ein holl gartrefi’n cael eu diogelu â chloeon digonol ar y drysau a’r ffenestri.
- Gwaith cyffredinol – lle mae synwyryddion mwg integrol ac offer llinell gofal wedi’u gosod, byddwn yn sicrhau eu bod wedi’u harchwilio.
- Ystafelloedd ymolchi – bydd pob sinc, toiled, bath, cawod a basn ymolchi yn rhydd o dolciau, diferu a staeniau drwg.
- Ceginau – darperir cegin o faint addas gyda lle i bopty ac oergell.
- Ffenestri, drysau a gwaith coed – bydd yr holl ffenestri a drysau wedi cael eu harchwilio, eu gwneud yn ddiogel a’u gosod yn eu lle yn dda.
- Lloriau – bydd yr holl orchuddion llawr yn cael eu harchwilio a’u trwsio/ailosod fel y gwelwn orau.
- Waliau – bydd yr holl blastr rhydd a diffygiol yn cael ei ail-wneud cyn ailaddurno.
- Gwelliannau gan denantiaid – fel arfer, bydd unrhyw welliannau gan denantiaid blaenorol yn cael eu tynnu a bydd y cartref yn cael ei adfer i’w gynllun a’i ddyluniad gwreiddiol.
Mae rhagor o wybodaeth yn ein safonau gosod