Symud tŷ
Mae nifer o amgylchiadau lle gallech chi fod am symud tŷ. Os hoffech chi symud tŷ neu os yw’ch amgylchiadau wedi newid, mae nifer o opsiynau ar gael, yn cynnwys:
- Rhoi’ch tenantiaeth i rywun rydych chi’n cyd-fyw ag ef – Aseinio Tenantiaeth
- Pan fydd tenant yn marw – Olyniaeth
Rhoi’ch tenantiaeth i rywun rydych chi’n cyd-fyw ag ef – Aseinio Tenantiaeth
Gallwch chi wneud cais am roi’ch tenantiaeth i berson arall rydych chi’n cyd-fyw ag ef fel y bydd yn gallu cadw’r denantiaeth os byddwch chi’n symud allan neu’n marw. ‘Aseinio tenantiaeth’ yw’r enw ar hyn. Rhaid i’r person arall fod yn rhywun a fyddai’n gymwys i gymryd y denantiaeth pe byddech chi’n marw, drwy olyniaeth. Mae hyn yn dibynnu ar berthynas y person â chi fel tenant.
Nid yw aseinio tenantiaeth yn creu tenantiaeth newydd. Mae’n golygu rhoi’ch hawliau tenantiaeth i berson arall. Wedi i chi aseinio’ch tenantiaeth, ni fydd unrhyw hawliau gennych chi wedyn i feddiannu’r eiddo. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am hyn, siaradwch â’r Swyddog Tai.
Pan fydd tenant yn marw – Olyniaeth
Pan fydd tenant yn marw, ni fydd ei denantiaeth yn dod i ben yn awtomatig. Mae hawl gan roi pobl i gymryd y denantiaeth. Yr enw ar hyn yw ‘olyniaeth’.
Fel arfer bydd yr hawl i olynu mewn tenantiaeth yn dibynnu ar y canlynol:
- Sut rydych chi’n perthyn i’r tenant sydd wedi marw?
- Pa mor hir rydych chi wedi byw gyda’ch gilydd?
Mae rheolau caeth ynghylch pwy a gaiff ‘olynu’ mewn tenantiaeth. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, siaradwch â’r Swyddog Tai.