Trwsio, cynnal a chadw a gwelliannau
Mewn arolwg diweddar, dywedodd 90% ohonoch eich bod yn fodlon ar ansawdd cyffredinol eich cartref a dywedodd 89% ohonoch eich bod yn fodlon ar y ffordd rydyn ni’n delio â gwaith trwsio a chynnal a chadw. Rydym am barhau â’n hymdrech i wella safonau ein heiddo a’n gwasanaethau.
Rydyn ni’n gyfrifol am drwsio a chynnal adeiladwaith ein cartrefi, ac rydych chi’n gyfrifol am waith trwsio bach, ond mae’n bosibl y byddwn yn gallu helpu os ydych dros 60 mlwydd oed, neu os ydych chi’n anabl.
Ailgodi tâl (o ddydd i ddydd)
Os byddwn yn gwneud unrhyw waith trwsio sy’n codi mewn cysylltiad â, neu o ganlyniad i, newidiadau sydd heb eu hawdurdodi, difrod bwriadol neu welliannau rydych chi wedi’u gwneud, chi fydd yn gyfrifol am gostau sy’n cael eu hailgodi am waith adfer.