Cymryd rhan
Mewn arolwg diweddar, roedd 75% ohonoch wedi dweud eich bod yn fodlon ein bod yn gwrando ar eich barn ac yn gweithredu arni. Rydym am weld pob un ohonoch yn cymryd rhan ac:
- yn mynegi’ch barn am y ffordd o ddarparu ein gwasanaethau,
- yn gweithio mewn partneriaeth â ni i barhau i wella ein cartrefi a chymunedau,
- yn gallu darparu adborth i ni i wella ein gwasanaethau.
Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn falch o glywed gennych. Os hoffech chi wirfoddoli a chymryd rhan, mae nifer o gyfleoedd a gweithgorau gennym, yn cynnwys:
- Darparu deunydd ar gyfer ein cylchlythyr
- Adborth gan denantiaid
- Parcmyn
- Cynhwysiant digidol
- Cynhwysiant ariannol
- Datblygu cymunedol
Os oes gennych chi unrhyw sgiliau a allai ein helpu i gyflawni ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein cymunedau a’u gwella, neu os ydych am ddatblygu sgiliau newydd, cysylltwch â ni.
Hefyd mae cyfleoedd eraill yn Sir Ddinbych i wirfoddoli a bod yn rhan o’ch cymuned. Mae Cyngor Sir Ddinbych am gynyddu nifer y cyfleoedd i wirfoddoli ac yn cydnabod y cyfraniad gan wirfoddolwyr at wella iechyd a llesiant eu cymunedau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ffyrdd i chi wirfoddoli yn Sir Ddinbych yma.
{currentPic.caption}