Paratoi eich cartref at y gaeaf
Mae hi’r adeg honno o’r flwyddyn eto – mae’r tywydd yn oeri, felly rydym ni’n dechrau tanio’r gwres! Dyma ambell awgrym defnyddiol i’ch helpu baratoi eich cartref at y gaeaf!
Addasu’r tymheredd
Yn ystod y gaeaf, mae’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni’n awgrymu y dylech osod eich system wresogi rhwng 18 a 21 gradd Celsius. Ceisiwch weld pa dymheredd sy’n gyfforddus i chi a’i gynyddu os ydych angen.
Gwiriwch eich gwresogyddion
Pan mae’r gwres ar fynd, rhowch ychydig funudau iddo ddechrau gweithio. Yna, gwiriwch bob gwresogydd i weld a ydynt yn cynhesu. Os nad ydynt, efallai bod angen edrych ar eich system wresogi. Isod, mae ambell broblem gyffredin a rhai atebion syml y gallech roi cynnig arnynt.
- Problemau cyffredin
- Rhannau oer ar wresogyddion – os ydych chi’n sylwi ar rannau oer ar ben uchaf eich gwresogydd, efallai fod angen gollwng aer ohono. Rydym yn eich cynghori i gysylltu â ni os felly.
- Colli pwysedd - Mae boeleri cyfunol nwy dan bwysedd, felly mae angen i’ch boeler fod tua 1 i 1.5 bar. Gwiriwch y mesurydd pwysedd – os yw’r pwysedd yn is na hyn, efallai y bydd angen cynyddu’r pwysedd. Os ydych chi’n sylwi ar bwysedd isel, cysylltwch â’n contractwyr, Liberty, ar 0330 333 8384
- Gosodiadau amser - Efallai fod eich thermostat a’ch amserydd wedi’u gosod i danio ar adegau penodol. Ar ddiwrnodau cynhesach, gallwch droi’r thermostat yn is. Mae hyn yn atal eich gwres rhag dod yn ôl yn ystod pwl o dywydd oer. Os nad yw eich boeler yn tanio’n awtomatig pan fyddech yn disgwyl iddo wneud, gwiriwch fod y thermostat wedi’i godi’n ei ôl.
Awgrymiadau at y gaeaf
- Gall boeleri weithiau stopio gweithio os nad ydynt yn cael eu defnyddio’n rheolaidd. Rydym yn awgrymu i chi danio eich gwres canolog am o leiaf awr bob dydd trwy gydol y gaeaf i sicrhau ei fod yn parhau i weithio heb drafferthion.
- Gall y dŵr yn eich pibellau tu allan rewi pan mae hi’n oer iawn. Gall hyn atal y boeler rhag gweithio a hyd yn oed achosi i’r pibellau fyrstio. Os felly, gallwch geisio toddi’r pibellau’n ofalus gyda dŵr cynnes.
Pryd i ofyn am help
Os ydych chi wedi dilyn y cyngor uchod ac nad yw eich gwres canolog yn gweithio er hynny, ffoniwch Liberty ar 0330 333 8384.
Cofiwch hefyd y bydd Liberty yn cynnal gwiriad bob blwyddyn i sicrhau bod eich boeler yn ddiogel ac yn gweithio’n effeithlon. Mae’n bwysig eich bod yn ateb eu galwadau ac yn gadael iddynt ddod i’ch cartref i wneud hyn.