Cynllun ymgysylltu â thenantiaid
Mae ein cynllun ymgysylltu â thenantiaid yn egluro sut rydym am ymgysylltu â’n tenantiaid i sicrhau eu bod ar ganol y broses o benderfynu ar ffurf ein gwasanaethau. Dylai tenantiaid a phreswylwyr gael cyfle i gymryd rhan yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu cartrefi a chael eu grymuso i wella’r cymunedau lle maent yn byw.
Rydym am gyflawni pedwar amcan drwy ein cynllun:
- Sicrhau bod ein ymgysylltu â thenantiaid yn gynhwysol, hyblyg ac eang o ran cynrychiolaeth.
- Sicrhau bod tenantiaid yn teimlo bod ganddynt ran mewn gwella ein gwasanaethau.
- Sicrhau bod tenantiaid yn cael cyfle i gymryd rhan yn eu cymuned.
- Sicrhau bod tenantiaid yn gallu cael cyfleoedd i ddatblygu a hyfforddi.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy gynnig strwythur hyblyg i’n tenantiaid fel y gallant gymryd rhan a chynnig her i ni.
Os hoffech chi ddarllen fersiwn lawn ein cynllun, cliciwch yma.