Profion Trydanol

Er mwyn lleihau’r risg o gael diffygion neu fethiannau trydanol yn ein cartrefi, rydym yn rhedeg rhaglen bum mlynedd barhaol o archwiliadau trydanol. Mae’n bwysig ein bod yn trefnu i arbenigwr cymwys archwilio unrhyw wifrau trydanol parhaol yn ein cartrefi a darparu Adroddiad Cyflwr Gosodiadau Trydanol (EICR). Bydd yr archwiliadau hyn yn rhoi prawf ar y prif systemau gwifrau mewn gosodiadau trydanol yn ein cartrefi.

Mae’n bwysig cynnal y profion hyn gan fod rhai gosodiadau yn dirywio dros amser, a gall hyn arwain at beryglon difrifol. Maent yn dirywio o ganlyniad i bethau fel difrod damweiniol, newidiadau sydd heb eu hawdurdodi, traul, cyrydu naturiol, gorddefnydd, a hyd yn oed effeithiau amgylcheddol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.