Mathau o atgyweiriadau rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw

Mae rhestrau cytundeb tenantiaeth rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw wrth drwsio a chynnal a chadw eich cartref, yn cynnwys ond ddim yn gyfyngedig i:

  • Newid y cloeon os ydych yn colli eich goriadau
  • Cloeon drysau mewnol
  • Y gost o gael mynediad os ydych yn cael eich cloi allan
  • Pwyntiau ffôn
  • Erialau/socedi teledu oni bai eu bod nhw’n gymunol
  • Lein ddillad oni bai eu bod nhw’n gymunol
  • Addurno tu mewn, oni bai fod difrod wedi’i achosi oherwydd nam strwythurol
  • Offer trydanol, yn cynnwys poptai, oergelloedd, peiriannau golchi dillad, peiriannau
  • golchi llestri ac yn y blaen.
  • Gwaelod grât o fewn deuddeg mis o’i adnewyddu
  • Plygiau a chadwyni ar gyfer sinciau, baths a sinciau golchi dwylo
  • Gorchuddion llawr yn cynnwys addasu’r drysau fel bod modd gosod carpedi
  • Seddi a chaeadau toiledau
  • Rhwystrau yn y system oherwydd gwastraff, yn cynnwys sinciau, baths a thoiledau
  • Gosodion a gosodiadau yn cynnwys bachau cotiau, llenni a rheiliau llenni
  • Cynnal eich gardd yn cynnwys torri’r lawnt, ardaloedd biniau du a gwastraff
  • Unrhyw wydr sydd wedi torri. Os bydd rhywun yn torri i mewn i’ch eiddo, mae’n rhaid i
  • chi gael rhif trosedd gan yr heddlu.
  • Plâu h.y. morgrug, gwenyn meirch, gwenyn, chwilod duon, llygod, llygod mawr a pỳcs.

Rydych yn gyfrifol am wneud yn siŵr nad ydych yn gwneud unrhyw beth i ddifrodi eich cartref yn cynnwys strwythur yr adeilad, gosodion a gosodiadau. Os ydych wedi difrodi, gwneud gwelliannau heb ganiatâd neu heb edrych ar ôl eich cartref yna bydd yn rhaid i ni godi tâl arnoch i drwsio unrhyw ddifrod. Am restr fwy manwl, cyfeiriwch at y cytundeb tenantiaeth.