Dysgu a hyfforddi
Rydym yn cynnig nifer o gyfleoedd i bobl ddilyn cyrsiau dysgu a hyfforddi ledled Sir Ddinbych.
Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, yn ddi-waith ac mewn tlodi, neu’n wynebu’r risg honno, ac am gael cymorth i gael gwaith neu symud ymlaen yn eich swydd, gallwn ni helpu drwy ddarparu cymorth a chyfarwyddyd ar gyfer y canlynol:
- Cymhelliant a hyder
- Cyngor a chyfarwyddyd un-i-un
- Cyfleoedd hyfforddi
- Gwirfoddoli
- Ysgrifennu CV
- Profiad gwaith
- Technegau cyf-weld
- Ymgeisio am swyddi
- Cyllid personol
- Cyfrifoldebau gofalu
- Unrhyw beth arall sy’n eich atal rhag cael addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
Os hoffech chi ofyn am gymorth, ewch i.
Mae nifer o gyfleoedd eraill hefyd yn Sir Ddinbych i wella’ch dysgu ar gyfer grwpiau cymunedol. Er enghraifft, gallwch hyfforddi mewn:
- Cymorth Cyntaf a Chymorth Cyntaf Argyfwng
- Hylendid Bwyd
- Ymarferion mewn cadair
- Codi a chario
- Gwaith ieuenctid
- Pobl ifanc
- Hyfforddiant ar gynnwys anabledd
- Arweinwyr Chwaraeon Cymunedol, ac yn y blaen.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i.