Ymwybyddiaeth o dwyll

Gyda chostau byw yn parhau i gynyddu, mae’n hawdd cael ein darbwyllo a chael pwysau gan dwyllwyr i feddwl y gallwch gael mwy o arian.

Ceisiwch sicrhau nad ydych yn gwneud hyn trwy gael eich twyllo mewn perthynas â:

  • Adennill eich debydau uniongyrchol ar gyfer rhent neu dreth y Cyngor.
  • Hawliad diffyg atgyweirio.

Mae gan y dudalen hon wybodaeth ddefnyddiol am y mathau hyn o dwyll, sut y gallwch amddiffyn eich hun, a ble i gael mwy o gymorth a gwybodaeth.

 

Twyll Debyd Uniongyrchol

Cysylltwyd â ni gan nifer o denantiaid pryderus sydd wedi cael cynnig ad-daliadau o daliadau debyd uniongyrchol a wnaed i dalu rhent a biliau eraill.

Byddwch yn ymwybodol mai twyll yw hyn. Gallech fod ar eich colled gyda mwy o ddyled i’w ad-dalu.

Efallai y byddwch yn gweld hysbyseb neu bydd rhywun yn cysylltu â chi ar y cyfryngau cymdeithasol neu wyneb yn wyneb ynglŷn â gwneud arian yn hawdd ac yn gyflym trwy hawlio ad-daliadau ar eich debydau uniongyrchol trwy eich banc. Mae hyn yn cynnwys taliadau rhent.

Byddant yn gofyn i chi am eich manylion personol a’ch cyfrif banc, y byddant yn ei ddefnyddio i wneud cais am ad-daliad debyd uniongyrchol gyda’r banc.

Os gwneir yr ad-daliad, byddant yn cymryd 50% neu fwy o’ch arian fel taliad am adael i chi ddefnyddio’r gwasanaeth. Yna byddwch mewn dyled gyda’r cwmnïau y gwnaethoch y taliadau hyn iddynt. Rhaid ad-dalu’r ddyled hon.

Gallai hyn olygu eich bod mewn perygl o golli eich cartref, ailfeddiannu nwyddau neu orfod mynd i’r llys.

Mae rhannu eich manylion banc yn golygu y gellir cymryd arian o’ch cyfrif banc yn y dyfodol heb eich caniatâd.

Os ydych yn cael anawsterau ariannol, cysylltwch â ni ar 01824 706000. Gallwn gynnig cefnogaeth i chi a’ch cyfeirio at arbenigwyr a all eich helpu i reoli eich arian.

Dyma ychydig o gyngor i gadw eich hun yn ddiogel rhag twyllwyr/sgamwyr:

  • Byddwch yn wyliadwrus o alwadau ffôn, llythyrau neu hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol yn cynnig cynlluniau i wneud arian yn hawdd ac yn gyflym - twyll ydynt.
  • Bydd twyllwyr yn gofyn i chi ddweud celwydd wrth y banc ynglŷn ag unrhyw geisiadau am daliad. Os dywedir wrthych am ddweud celwydd wrth y banc, twyll ydyw.
  • Peidiwch byth â datgelu gwybodaeth am eich cyfrif banc, gan gynnwys manylion mewngofnodi, cyfrineiriau neu gyfrineiriau untro, wrth unrhyw un.
  • Cofiwch, os yw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod.
  • Os ydych yn poeni am dwyll neu sgâm, gallwch gysylltu â Action Fraud drwy eu gwefan drwy glicio ar y ddolen hon neu rif ffôn: 0300 123 2040 i ddweud ynglŷn â thwyll.

 

Hawliadau Diffyg Atgyweirio Tai - Gwyliwch y twyllwyr

Rydym yn gwybod bod pobl yn cnocio ar ddrysau yn cynnig helpu tenantiaid gan awgrymu y gallent fod â hawl i iawndal ar sail “dim llwyddiant – dim ffi” am hawliadau diffyg atgyweirio. Nid ydym eisiau dychryn pobl ac, yn sicr, nid ydym eisiau rhwystro tenantiaid rhag ein herio ni, ond byddwch yn ofalus. Gallwch wynebu costau os byddwch yn newid eich meddwl ac os byddwch yn aflwyddiannus yn y llys.

Os oes gennych waith atgyweirio sydd angen ei wneud, yna:

  1. Gadewch i ni wybod drwy ein ffonio ar 01824 706000 neu anfon e-bost at tai@sirddinbych.gov.uk 
  2. Os nad ydych yn fodlon â sut rydym yn delio gyda’r gwaith, defnyddiwch ein gweithdrefn gwyno a byddwn yn edrych i mewn i’r mater.
  3. Os byddwch yn dal yn anfodlon, gallwch gysylltu ag Ombwdsmon Cymru, sy’n gallu cynnig iawndal, ac ni fydd unrhyw gost am hyn.

Dyma ychydig o gyngor i gadw eich hun yn ddiogel rhag twyllwyr/sgamwyr:

  • Byddwch yn wyliadwrus o alwadau ffôn, llythyrau neu hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol yn cynnig cynlluniau i wneud arian yn hawdd ac yn gyflym - twyll ydynt.
  • Bydd twyllwyr yn gofyn i chi ddweud celwydd wrth y banc ynglŷn ag unrhyw geisiadau am daliad. Os dywedir wrthych am ddweud celwydd wrth y banc, twyll ydyw.
  • Peidiwch byth â datgelu gwybodaeth am eich cyfrif banc, gan gynnwys manylion mewngofnodi, cyfrineiriau neu gyfrineiriau untro, wrth unrhyw un.
  • Cofiwch, os yw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod.
  • Os ydych yn poeni am dwyll neu sgam, gallwch gysylltu â Action Fraud drwy eu gwefan drwy glicio ar y ddolen hon neu rif ffôn: 0300 123 2040 i ddweud ynglŷn â thwyll.

Mae gwefannau defnyddiol hefyd y gallwch edrych arnynt: