Cyflwyno Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023

Cyflwyno Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC 2023) - Beth mae’n ei olygu i chi!
Mae’n bosibl fod rhai ohonoch wedi clywed am Safon Ansawdd Tai newydd Cymru 2023 a ddiweddarwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) ym mis Hydref 2023, ond beth mae hyn yn ei olygu i chi a sut ydym ni am ei gyflawni? 

Dyma rai cwestiynau cyffredin am Safonau Ansawdd Tai Cymru, gobeithio y bydd o gymorth.

  1. Beth yw Safon Ansawdd Tai Cymru 2023?
    Ym mis Hydref 2023, roedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno set newydd o safonau ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru.  Mae’n canolbwyntio ar ddarparu tai fforddiadwy i denantiaid, o ansawdd da, addas ar gyfer anghenion preswylwyr presennol a’r dyfodol.  
  1. Beth yw’r prif bethau sydd wedi eu cynnwys yn y safonau newydd?
    Er mwyn i ni fodloni safonau Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid i’ch cartrefi:
  • Fod mewn cyflwr da.
  • Fod yn saff a diogel.
  • Beidio costio gormod i’w gwresogi. A pheidio bod yn wael i’r amgylchedd.
  • Yn cynnwys ardal gyfleustodau a chegin fodern.
  • Yn cynnwys ystafell ymolchi fodern.
  • Cyfforddus ac addas i’r sawl sy’n byw yno. 
  • Cynnwys gardd os yn bosibl.
  • Bod â lleoliad braf y tu allan os yn bosibl.
  1. Beth yw'r amserlenni?
    Dyma’r prif ddyddiadau cau y byddwn yn gweithio tuag atynt:
  • 31 Mawrth 2025:
    • Asesu cyflwr eich cartrefi fel ein bod yn gwybod beth rydym angen ei wneud. I wneud hyn byddwn yn edrych ar y wybodaeth sydd gennym am eich cartrefi.  Mae’n bosibl y byddwn angen ymweld â rhai o’ch cartrefi ond byddwn yn gadael i chi wybod os byddwn. 
    • Creu cynllun a gweithio allan faint y bydd yn ei gostio i gael cartrefi i fyny i’r safonau.   Mae’n rhaid i ni roi hwn i Lywodraeth Cymru.
    • Ymgysylltu â chi a dangos beth fyddwn yn ei wneud fel y gallwch chi ddweud eich dweud.  Byddwn yn gweithio’n agos ar hyn gyda’n Ffederasiwn Tenantiaid a Phreswylwyr Sir Ddinbych.
    • Diweddaru ein cynllun busnes i gynnwys unrhyw welliannau a gwaith rydym angen ei wneud i gydymffurfio gyda Safon Ansawdd Tai Cymru 2023.
  • 31 Mawrth 2027:
    • Cynhyrchu ein Llwybrau Ynni Targed (TEP) yn defnyddio’r wybodaeth rydym wedi’i chael o’ch asesiadau cartref. Mae TEP yn dangos i ni beth sydd angen ei wneud i sicrhau bod eich cartref yn cynnwys system wresogi y gallwch chi fforddio ei rhoi ymlaen.    
  • 31 Mawrth 2034:
    • Mae’n rhaid i ni fodloni’r safonau hyn. 
  1. Beth ydyn ni wedi'i wneud hyd yma?
    Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio drwy safonau Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 ac yn llunio cynllun gweithredu y gallwn ei rannu gyda thenantiaid erbyn mis Mawrth 2025.  Bydd gennym fwy o wybodaeth am hyn yn newyddlen yr Hydref i chi. 
  1. Sut y telir am hyn?
    Rydym angen ystyried sut fydd y gwelliannau, yr ydym angen i gyflawni’r safonau newydd yn cael eu hariannu. Bydd y rhan fwyaf o hyn yn cael ei ariannu drwy ein hincwm o renti a rhywfaint o gyllid Llywodraeth Cymru.    Penderfynir ar amserlen y gwaith yn ôl ein gallu i ariannu hyn mewn ffordd gynaliadwy.
  1. Sut fedra i gymryd rhan?
    Rhan bwysig o’r safonau newydd hyn yw eich cyfraniad chi. Byddwn yn gweithio’n agos ar hyn gyda grŵp tasg a gorffen.  Os hoffech fod yn rhan o’r grŵp hwn o denantiaid a’n cefnogi ni i weithredu Safon Ansawdd Tai Cymru, yna cysylltwch â ni.   
  1. Ble alla i gael rhagor o wybodaeth?
    Am ragor o wybodaeth ynglŷn â beth mae’r rhain yn ei gynnwys, ewch i https://www.llyw.cymru/safon-ansawdd-tai-cymru-2023-0