Iechyd a llesiant
Rydym yn cydweithio â nifer o sefydliadau, partneriaid a grwpiau cymunedol i greu ein rhaglen ein hunain o weithgareddau a phrosiectau i hyrwyddo Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
Dyma gyfle cyffrous i ni gydweithio i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yng Nghymru. Mae angen i ni feddwl am ganlyniadau hirdymor ein penderfyniadau a sut y gallwn atal problemau rhag codi. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i.
Rhaglen Natur er Budd Iechyd:
Os hoffech wella’ch iechyd a llesiant drwy fynd i’ch amgylchedd naturiol lleol, dewch atom i gymryd rhan yn un o’n Prosiectau Natur er Budd Iechyd sy’n cael eu darparu mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych.
Mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle i gwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd, gan gydweithio i warchod a gwella’r amgylchedd naturiol lleol. Mae’r prosiect yn cael ei ddarparu yn:
- The Marsh a Chanolfan Phoenix, Rhydwyn Drive, y Rhyl
- Morfa Gateway, Prestatyn
- Canolfan Gymunedol Pengwern, Llangollen
- Canolfan Ni, Corwen
Dyma rai o’r prosiectau rydym wedi gweithio arnynt ers dechrau’r Prosiect:
- Sgiliau coetir, crefftau goroesi yn y gwyllt a brecwast yn y coed
- Cyfleoedd i wneud gwaith cadwraeth a garddio gwirfoddol
- Teithiau cerdded ymwybyddiaeth ofalgar, cerdded Llychlynnaidd a theithiau iechyd
- Celf a Chrefft amgylcheddol, yn cynnwys plethu gwiail, gwneud ffelt a blychau adar, ystlumod a phathewod
- Sesiynau rhandiroedd a thyfu bwyd
- Teithiau i erddi lleol a safleoedd AHNE
- Gweithgareddau dros y gwyliau ar gyfer pobl iau a theuluoedd
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am weithgareddau yn eich ardal chi, gwelwch ein tudalen digwyddiadau neu dilynwch ni ar.
Os oes gennych chi syniad ar gyfer prosiect sy’n defnyddio’r amgylchedd naturiol yn eich cymuned, mae pob croeso i chi gysylltu â thîm Natur er Budd Iechyd ar 01824 70600