Cynnal Tiroedd

Mae’r Contract Cynnal Tiroedd yn cynnwys y mannau agored a mannau cymunol awyr agored ar ein hystadau tai. Rydym am gadw’r mannau lle rydych yn byw yn lân a thaclus. Gallwch ddisgwyl gweld pobl yn gweithio arnynt drwy gydol y flwyddyn. Yn ystod y gwanwyn, yr haf a’r hydref, byddant yn torri’r glaswellt yn rheolaidd. Yn ystod misoedd y gaeaf, byddant yn tocio llwyni, yn torri gwrychoedd ac yn casglu dail. Cyflawnir tasgau fel codi sbwriel a chwistrellu chwyn drwy gydol y flwyddyn.

Coed

Rydym wedi ymrwymo i warchod a chadw coed sy’n tyfu ar ein tir. Rydym yn deall pa mor bwysig i chi yw’r rhan y mae coed yn ei chwarae yn ein tirwedd, ein hamgylchedd a’n bywyd gwyllt, ond rydym hefyd yn deall eu bod yn gallu achosi niwsans. Bydd gweithwyr proffesiynol cymwys yn gweithio ar y coed gan ddilyn ein polisi ar goed a Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Byddwn yn cyflawni gwaith ar goed yn ystod yr hydref a’r gaeaf ond, os byddwn yn credu bod coeden yn beryglus, byddwn yn cymryd camau i ddelio â hyn mor fuan â phosibl.