Dod â’ch tenantiaeth i ben
Mae dod â’ch tenantiaeth i ben yn benderfyniad pwysig. Os ydych chi’n ystyried rhoi’r gorau i fyw yn eich cartref oherwydd
- eich bod yn ei chael yn anodd talu’r rhent,
- yn cael problemau, neu
- os nad ydych chi’n sicr i ble fyddwch chi’n symud
siaradwch â’r Swyddog Tai. Fel arall, gallwch siarad â Cyngor Ar Bopeth Sir Ddinbych neu Shelter Cymru.
Fel tenant, rhaid i chi wneud hyn:
-
Rhoi rhybudd o 4 wythnos o leiaf i ni drwy lythyr, a llenwi ffurflen ‘Hysbysiad Terfynu’ a’i llofnodi, os ydych chi am ddod â’ch tenantiaeth i ben. Os mai cyd-denantiaeth sydd gennych chi, gall un neu’r ddau ohonoch chi lofnodi’r llythyr. Rhaid i chi roi’r llythyr hwn i’r Swyddog Tai.
- Rhaid i ddiwrnod olaf y denantiaeth fod yn ddydd Sul, a rhaid dychwelyd yr allweddi i’n swyddfeydd cyn hanner dydd ar y dydd Llun dilynol.
- Gadael eich cartref mewn cyflwr da, yn lân ac yn daclus, a chlirio’ch holl eiddo o’r cartref.
- Rhaid i chi hefyd:
- Sicrhau eich bod yn cofnodi’r darlleniadau olaf ar y mesuryddion cyn i chi adael yr eiddo
- Talu unrhyw rent neu daliadau eraill sy’n ddyledus
- Dychwelyd yr allweddi dim ond i’r swyddfa Cyngor sydd agosaf i chi
- Rhoi gwybod i ni / y Cyngor am eich cyfeiriad newydd
- Os na fyddwch chi’n rhoi meddiant gwag i ni, gallwn godi tâl arnoch chi am y canlynol:
- Costau clirio’r eiddo
- Glanhau’r eiddo
- Trwsio unrhyw ddifrod neu esgeulustod
- Ailosod unrhyw osodiadau neu ffitiadau rydych chi wedi’u tynnu a heb roi eraill yn eu lle sydd o safon resymol a thebyg
- Newid y cloeon
- Llenwi unrhyw byllau dŵr etc rydych chi wedi’u cloddio
Os bydd tenant yn marw:
Ni fydd y denantiaeth yn dod i ben yn awtomatig os bydd y tenant yn marw.
- Gall y denantiaeth fynd i gyd-denant, priod neu bartner sifil, neu aelod o’i deulu os yw’n gymwys i olynu.
- Os yw’r tenant wedi gadael ewyllys, gall cynrychiolydd personol yr ystad ddod â’r denantiaeth i ben drwy roi hysbysiad o 4 wythnos ar y mwyaf drwy lythyr.
- Os nad yw’r tenant wedi gadael ewyllys, bydd y cyfrifoldeb cyfreithiol am ei denantiaeth yn mynd i’r Ymddiriedolwr Cyhoeddus, h.y. Tai Sir Ddinbych/Cyngor Sir Ddinbych. Byddwn ni’n rhoi hysbysiad i unrhyw berthynas agosaf sydd gan y tenant.
Os byddwn ni am ddod â’ch tenantiaeth i ben:
Mae nifer o resymau a allai olygu y byddwn ni’n ceisio dod â’ch tenantiaeth i ben, yn cynnwys:
- Os ydych chi wedi achosi niwsans i gymdogion
- Os nad ydych chi wedi talu’ch rhent, neu wedi’i dalu’n hwyr dro ar ôl tro
- Os ydych chi wedi symud allan ac wedi gosod eich tŷ i rywun arall.
Os byddwn ni am ddod â’ch tenantiaeth i ben, rhaid i ni wneud hyn:
- Rhoi hysbysiad cyfreithiol i chi o 4 wythnos o leiaf – a gyflwynir i chi wedi iddo gael ei ddanfon i’ch cyfeiriad.
- Os byddwch chi’n methu â chlirio’r eiddo a/neu’n ei adael mewn cyflwr gwael, byddwn ni’n codi tâl arnoch chi am y gost o’i adfer i gyflwr da.
- Os byddwch chi’n gadael person neu anifail yn yr eiddo wedi i chi symud allan, byddwn ni’n dod ag achos llys i’w symud ac yn codi tâl arnoch chi am y gost.
- Tenantiaid rhagarweiniol yn unig:
- Dim ond os ydych chi wedi torri amodau’ch tenantiaeth y gallwn ni ddod â’ch tenantiaeth i ben.
- Byddem yn rhoi ‘Rhybudd Cyflwyno’ ar ôl cael gorchymyn llys. Bydd yn rhoi dyddiad cychwyn i chi ac wedyn bydd gennych bedair wythnos i adael.
- Tenantiaid diogel yn unig:
- Byddai angen i ni ddangos rhesymau dilys i chi i’ch troi allan. Y ‘seiliau’ yw’r rhain ac maen nhw wedi’u diffinio mewn cyfraith .
- Byddech yn cael ‘Hysbysiad o Fwriad i Geisio Meddiant’ neu ‘Hysbysiad o Fwriad i Israddio Tenantiaeth’ a fydd yn dangos ein rhesymau dros roi’r hysbysiad.
- Bydd gennych chi hawl i gael gwrandawiad llys