Diogelu

Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel, pwy bynnag ydyn nhw a beth bynnag yw eu hamgylchiadau. Mae diogelu yn ymwneud ag amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed rhag eu cam-drin a’u hesgeuluso. Mae pob un ohonom yn gyfrifol am ddiogelwch yr aelodau o’n cymunedau sydd fwyaf agored i niwed.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i weithio a hyrwyddo llesiant y rheini sydd ag angen gofal a chymorth, neu ofalwyr sydd ag angen cymorth.

Os byddwch chi’n gweld neu’n gwybod am sefyllfa sy’n peri pryder, peidiwch â’i hanwybyddu. Rhowch wybod i ni drwy gysylltu â’r canlynol:

I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelu, cliciwch yma.

Cam-drin Domestig – Adduned Gwneud Safiad

Cam-drin domestig yw un o’r problemau mwyaf a wynebwn mewn cymdeithas heddiw. Mae dwy fenyw yn cael eu lladd bob wythnos yn y DU gan eu partner neu gyn-bartner.

Rydym wedi addunedu ac ymrwymo i gymryd camau i helpu pobl sy’n profi cam-drin domestig. Rydym wedi cytuno i gymryd pedwar cam:

  1. Sefydlu polisi i helpu tenantiaid sy’n profi effaith cam-drin domestig.
  2. Trefnu i wybodaeth fod ar gael ar ein gwefan ac mewn mannau priodol eraill am wasanaethau cymorth cam-drin domestig lleol a chenedlaethol fel bod tenantiaid a staff yn gallu cael gafael arnynt yn rhwydd.
  3. Sefydlu polisi Adnoddau Dynol, neu ddiwygio ein polisi presennol, i gynorthwyo aelodau staff a all fod yn profi cam-drin domestig.
  4. Penodi hyrwyddwr ar lefel uwch yn Tai Sir Ddinbych a fydd yn atebol am ein gweithgarwch i helpu pobl sy’n profi cam-drin domestig.

I gael rhagor o wybodaeth am yr adduned, ewch i https://www.cih.org/policy/make-a-stand

Llinellau cymorth defnyddiol:

Mae’r Llinell Gymorth Trais Domestig Genedlaethol yn llinell gymorth gyfrinachol sydd ar gael am ddim ac yn cael ei rhedeg gan Women’s Aid a Refuge ar gyfer unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig. Mae ar gael bob awr o’r dydd a’r nos, saith diwrnod yr wythnos. Gallwch ei ffonio ar 0808 2000 247 neu fynd i.

Mae Cymorth i Ferched yn darparu gwahanol fathau o wybodaeth a chymorth yng nghyswllt cam-drin domestig, yn cynnwys cymorth i bobl sy’n profi cam-drin domestig a phobl sy’n poeni bod pobl eraill yn ei brofi. Gallwch gysylltu â nhw ar 0808 80 10 800 neu fynd i.