Tai fforddiadwy

Mae Tai Teg yn gofrestr ar gyfer pobl:

  • sy’n ystyried rhentu cartref (ar rent canolradd)
  • sy’n ystyried prynu eiddo i fod yn berchen arno
  • nad ydynt yn gallu fforddio rhentu cartref neu ei brynu’n gyfan gwbl.

Mae’n hollbwysig i chi fod ar gofrestr Tai Teg os ydych am gael eich ystyried ar gyfer perchentyaeth â chymorth neu gynllun rhentu eiddo. Bydd Tai Teg yn ystyried eich dyddiad cofrestru wrth enwi pobl ar gyfer cynlluniau neu eiddo sydd ar gael.  

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Tai Teg.