Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Fel tenant, rydym yn disgwyl i chi barchu’ch cymdogion a bod yn ystyriol ohonynt. Mae hawl gan bawb i fyw fel y mae’n dymuno, ar yr amod na fydd yn ymyrryd, yn aflonyddu, yn dychryn nac yn peri gofid i bobl sy’n byw yn ei ymyl, nac yn torri’r gyfraith. Bydd ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddu’n cael ei ystyried yn doriad ar eich Cytundeb Tenantiaeth.
Diffiniad o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n cael ei ddefnyddio’n aml yw hwnnw yn Neddf Trosedd ac Anhrefn 1998:
‘Gweithredu mewn modd a oedd yn achosi neu a oedd yn debygol o achosi aflonyddu, dychryn neu ofid i un neu ragor o bersonau nad ydynt yn perthyn i’r un aelwyd â’r diffynnydd.’
Rhai enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yw:
Diystyru llesiant cymunedol neu bersonol pobl eraill:
-
Cerddoriaeth yn cael ei chwarae’n uchel neu sŵn mawr o set deledu, radio, offerynnau cerddorol, ceir, cŵn yn cyfarth
- Ymddygiad swnllyd h.y. gweiddi, rhegi, ymladd, clepian drysau etc
- Ymddygiad sy’n achosi niwsans h.y. chwarae gemau pêl, taflu pethau o ffenestri, balconïau a rhodfeydd, gwneud gwaith ar y tŷ ar oriau anghymdeithasol etc.
Gweithredoedd wedi’u hanelu at bobl:
-
Bygwth ac aflonyddu h.y. cam-drin geiriol, bwlio, ymddygiad tramgwyddus, camdriniol a bygythiol, ystumiau bygythiol etc
Difrod amgylcheddol:
-
Difrod troseddol / fandaliaeth h.y. difrodi adeiladau, coed, planhigion, ysgrifennu graffiti etc.
- Gadael sbwriel/gwastraff h.y. tipio, cŵn yn baeddu etc.
Camddefnyddio mannau cyhoeddus:
-
Camddefnyddio a delio mewn cyffuriau/sylweddau
- Yfed ar y stryd
- Cardota, puteindra, hel puteiniaid o gerbyd, a gweithgarwch anfoesol (gweithredoedd rhywiol)
- Gadael ceir
- Niwsans yn ymwneud â cherbydau a defnydd amhriodol o gerbydau h.y. parcio mewn lle anghyfleus, trwsio ceir yn y stryd/yr ardd, rasio ceir etc.
Mae rhagor o wybodaeth a rhestr fanwl ar gael yma.